Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Sut i wneud cwyn

Ein prif nod yw darparu gwasanaeth o'r safon uchaf, sy'n gost-effeithiol ac yn effeithlon. Fodd bynnag, rydym ni'n derbyn bod pethau'n mynd o'i le o dro i dro a bod yn rhaid cymryd camau i adfer y sefyllfa pan fyddwn yn gweld diffygion.

Mae pob gwyn yn gyfle i unrhyw un sy'n defnyddio neu'n derbyn gwasanaethau'r Awdurdod Tân gywiro pethau.

Mae ein gweithdrefn gwyno yn ei lle er mwyn cyflwyno gwelliannau parhaus ar draws y Gwasanaeth. Rydym ni'n ymdrechu'n barhaus i wella hyder a boddhad y cwsmer ynom ni.

Gellir gwneud cwyn dros y ffôn, yn bersonol, yn ysgrifenedig, trwy e-bost, ffacs neu'r wefan a byddwn yn ymdrin â hi heb flaenoriaethu.

Fe'ch cynghorir pwy fydd yn delio gyda'r gwyn, eu manylion cyswllt a byddwch chi'n derbyn rhif y gwyn. Ymatebir i'r gwyn o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os ydych chi'n dymuno gwneud cwyn neu os hoffech ragor o wybodaeth neu gymorth am unrhyw ran o'r weithdrefn gwynion, cysylltwch â:

Rheolwr Dyletswydd yr Ystafell Reoli
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Canolfan Cyfathrebiadau ar y Cyd
Crud y Dderwen
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JG

Ffôn: 01931 522 006

Ffacs: 01745 536412

E-bost

Gallwn eich sicrhau bydd cyfrinachedd yn cael ei gynnal bob amser. Mae croeso ichi gysylltu â'r Gwasanaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

Cwynion yn ymwneud a'r Iaith Gymraeg

Os oes gennych gŵyn yn ymwneud â'n cydymffurfiaeth â Safonau'r Iaith Gymraeg, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'n gweithdrefn Polisi Cwynion, fel y nodir uchod, i ddatrys y mater. Fel arall mae gennych hawl i gyfeirio unrhyw gwynion yn uniongyrchol at Gomisiynydd y Gymraeg.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen