GTA Cymru’n Cefnogi Lansiad Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Newydd Cymru
PostiwydMae'r Cyd-grŵp Tanau Bwriadol (JAG) wedi lansio dogfen Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru (WARS2) newydd, gyda chefnogaeth lwyr Gwasanaethau Tân ar hyd a lled Cymru. Mae'r ddogfen yn nodi'r nodau ac amcanion pennaf ar gyfer lleihau tanau bwriadol yng Nghymru rhwng 2012 - 2015.
Mae'r ddogfen newydd yn adeiladu ar ddogfen ddiwethaf WARS, a gyhoeddwyd yn 2007 gan JAG a Llywodraeth Cymru (LlC), i roi ffocws clir i sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio ym maes tanau bwriadol. Yn y blynyddoedd ers lansio WARS, mae amledd cyffredinol y tanau bwriadol a gofnodwyd yng Nghymru wedi disgyn gan 30%.
Fodd bynnag, mae tanau bwriadol yn dal i fod yn broblem real, difrodus a chostus yng Nghymru. Bydd y strategaeth newydd yn mynd i'r afael â'r broblem, trwy ganolbwyntio ar sawl nod allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys: cydweithio, gwaith amlasiantaethol a chynnwys y gymuned. Bydd yn annog unigolion ac asiantaethau oddi fewn i'r cymunedau eu hunain i rannu'r cyfrifoldeb dros leihau tanau bwriadol, trwy gyfrwng cysylltiadau agos gyda'r bobl broffesiynol.
Dywedodd Dave Evans, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Rydw i wrth fy modd ein bod yn medru lansio'r strategaeth newydd hon ac rwy'n hyderus y bydd Gwasanaethau Tân ac Achub, yr Heddlu, Llywodraeth Cymru a chymunedau ar hyd a lled Cymru'n medru gweithio gyda'i gilydd, i nodi meysydd o bryder. Credaf bydd y strategaeth newydd hon o fudd i'n hymrwymiad parhaus at ymdrin â'r broblem erchyll hon ac y bydd yn ein cynorthwyo ni wrth gadw Cymru'n ddiogel ac yn rhydd o falltod tanau bwriadol."