Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i’r cyhoedd gymryd gofal wrth ddefnyddio silindrau nwy pan fyddant yn gwersylla

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar i'r cyhoedd gymryd gofal yn yr awyr agored wedi i ddau o bobl gael eu llosgi'n ddifrifol mewn dau ddigwyddiad gwahanol dros y penwythnos.

Cafodd dyn yn ei 30au ei anafu am 18.13h o'r gloch Dydd Gwener  (10fed Awst) mewn gwersyllfa ym Morfa Bychan ger Porthmadog wedi iddo geisio newid silindr nwy ar stof tra bod stof arall dal ynghyn.  Aethpwyd ag ef i'r ysbyty  mewn ambiwlans ac y mae bellach yn derbyn triniaeth i losgiadau ar ei faich a'i bengliniau yn Ysbyty Whiston.

Cafodd dynes 40 mlwydd oed losgiadau i'w hwyneb, gwddf a breichiau wedi iddi ddefnyddio silindr bwtan a oedd wedi ei osod ar ben gridyll  mewn gwersyllfa ym Mochras ger Llanbedr am 10.42 o'r gloch y bore yma (Dydd Sul 12fed Awst.  Cafodd ei chludo i'r ysbyty gan ambiwlans awyr ac y mae bellach wedi cael ei throsglwyddo i Ysbyty Whiston am driniaeth.

Meddai Dave Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Yn ddiolchgar, nid oedd bywydau'r ddau yn y fantol ond cawsant anafiadau difrifol y gallant fod wedi eu hosgoi drwy gymryd ychydig bach mwy o ofal.

"Rydym yn poeni bod angen i bobl sydd yn defnyddio silindrau nwy neu'n cynnau tanau gymryd rhagor o ofal.  Ceisiwch osgoi cynnau tanau agored - byddwch yn gyfrifol a defnyddiwch stof wersyllfa bwrpasol ac os ydych yn defnyddio hylifau fflamadwy, dilynwch y cyfarwyddiadau diogelwch yn enwedig wrth eu hail lenwi.  Peidiwch byth â gadael fflamau agored heb neb i gadw llygaid ar y tân.

"Os ydych yn bwriadu mynd i wersylla, unai mewn pabell, carafán neu gerbyd gwersylla, rydym yn eich annog i gymryd gofal.  Dylid gosod larymau mwg mewn carafannau a cherbydau gwersylla ac y mae'r rhain ar gael yn rhad ac am  ddim gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drwy alw'r rhif rhadffôn canlynol 0800 169 1234. Rydym hefyd yn rhannu cyngor diogelwch tân yn rhad ac am ddim."

Dylai pobl fod yn hynod o ofalus wrth danio barbiciws a dylent gadw at y cyngor diogelwch tân cyffredinol isod:  

- Cyn mynd i wersylla neu garafanio, gofynnwch i'r sawl sydd berchen y tir os ydynt yn caniatáu  i chi ddefnyddio barbiciw a pheidiwch byth â choginio yn agos at ddefnyddiau fflamadwy neu laswellt hir.

- Dylid cymryd pwyll wrth ddefnyddio barbiciws  - dylid eu gosod ar dir gwastad ac ar ddefnydd anfflamadwy, ymhell o adeiladau, coed neu eitemau eraill a all fynd ar dân yn hawdd.  Unwaith y mae'r barbiciw wedi cael ei danio peidiwch â'i adael heb neb i gadw llygaid arno.  Dylech gadw bwced o ddŵr neu dywod wrth law.  Cadwch blant ac anifeiliaid ymhell o'r barbiciw er mwyn osgoi damweiniau.  Ar ôl gorffen coginio, gadwch i'r colsion oeri cyn cael gwared ohonynt.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen