Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn arddangos ei waith i'r Gweinidog

Postiwyd

Bydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AS, yn ymweld â'r Gogledd heddiw (Dydd Iau 19eg Rhagfyr) i gael gwybod mwy am y math o waith y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ei wneud.

 

Bydd yr ymweliad yn cychwyn ym MhentrePeryglon, y ganolfan addysgiadol nodedig yn Nhalacre, Sir y Fflint.

 

Fe agorwyd y ganolfan yn 2005 ac mae Pentre Peryglon yn elusen gofrestredig a ddatblygwyd yn atyniad addysgiadol pwrpasol gan grŵp o sefydliadau yn cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a BHP Billiton Petroleum Ltd. Mae'r ganolfan yn cynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol yn ymwneud â phwysigrwydd diogelwch ar y ffordd, yn y cartref ,  ar y traeth a llawer mwy.  Y mae ceidwaid sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig yn tywys plant o gwmpas y ganolfan er mwyn eu haddysgu am ddiogelwch personol a chymdeithasol. Ers agor ym mis Hydref 2005, mae'r ganolfan yn denu oddeutu 6,000 o ymwelwyr o bob cwr o'r Gogledd bob blwyddyn.

 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn amlygu rhai o'i brosiectau a'i lwyddiannau diweddaraf, yn cynnwys ei wobr Platinwm am iechyd corfforaethol.  Lwyddodd y Gwasanaeth i ennill y wobr ym mis Gorffennaf eleni ac mae'r wobr yn cydnabod ei ymrwymiad 'rhagorol' i'w gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac ymgysylltu cymdeithasol.

 

Bydd llwyddiannau'r Gwasanaeth mewn perthynas â'i raglen ar gyfer archwiliadau diogelwch tân yn y cartref, gwaith y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, mentrau ymgysylltu gyda phobl ifanc Prosiect y Ffenics, yn ogystal â'r Prosiect Ymyrraeth ar y cyd ar Ddiogelwch Ffyrdd gyda Heddlu Gogledd Cymru, hefyd ymhlith y gwaith a fydd yn cael eu harddangos yn ystod yr ymweliad.

 

Bydd y gwaith a gwblhawyd yn ystod y llifogydd diweddar a'u heffaith ar yr ardal leol hefyd yn cael eu hamlygu i'r Gweinidog cyn iddi fynd draw i orsaf dân Glannau Dyfrdwy i gwrdd â'r criwiau tân ac achub lleol er mwyn cael gweld unedau achub o ddŵr y Gwasanaeth.

 

Meddai'r Prif Swyddog Tân Simon Smith: "Cadw cymunedau'n ddiogel yw ein prif flaenoriaeth a thrwy arddangos ein gwaith fel hyn a chael cyfle i egluro mwy am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud  gallwn arddangos  yr ystod eang o raglenni a mentrau sydd gennym ni ar waith.

"Yr ydym wedi canolbwyntio  ar waith ataliol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'r ymweliad yn gyfle i ni ddangos i'r Gweinidog sur yr ydym yn ymgysylltu gyda phobl fregus yn ein cymunedau er mwyn gwneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi."

Meddai'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths: "Rydw i'n falch fy mod wedi cael cyfle i weld yr ystod eang o waith sy'n cael ei gyflawni gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn cynnwys ei waith ataliol, hybu diogelwch a darparu gwasanaeth achub.  Roedd y gwaith rhagorol y mae'n ei gyflawni gydag asiantaethau eraill ar draws y Gogledd yn amlwg yn ystod y llifogydd difrifol yn ardal y Rhyl ac ardaloedd eraill yn ddiweddar."

Ar ôl ymweld â'r Gogledd bydd y Gweinidog yn mynd draw i weld gwaith y ddau wasanaeth tân ac achub arall yng Nghymru yn De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen