Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y streic Noswyl Nadolig yn dod i ben a’r gwasanaeth arferol yn cael ei adfer

Postiwyd

Daeth y cyfnod o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am hanner nos (Dydd Mawrth 24ain Rhagfyr)

Dyma oedd y streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.

Dywedodd y Prif Swyddog TânSimon Smithei fod yn hapus gyda'r modd y llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdopi yn ystod y streic.

 

"Fel y disgwylid, fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni. Fodd bynnag, fe weithiodd ein trefniadau rheoli parhad busnes yn effeithiol ac wedi'r streic  fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer yn gyflym a diogel.

 

"Unwaith eto, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch

"Er bod y streic yma drosodd, hoffwn atgoffa pobl ei bod yn hynod bwysig iddynt gymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd yn enwedig dros y Nadolig- bydd diffoddwyr tan yn mynd ar streic eto Nos Galan rhwng 630pm a hanner awr wedi hanner nos yn ystod oriau mân y flwyddyn newydd."

"Dymunaf Nadolig llawn a diogel i bawb."

Y mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen