Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymatebwyr brys yn cynnal ymarferiad llifogydd mawr yn y Bala

Postiwyd

Wedi'r llifogydd diweddar yn Sir Ddinbych, daeth yn amlwg bod yn rhaid i ni yn y Gogledd fod yn barod ar gyfer ychwaneg o gawodydd trwm rheolaidd gyda pherygl uwch o lifogydd yn ein cymunedau.

Fel rhan o'u trefniadau i baratoi ar gyfer lifogydd, mae ymatebwyr cyntaf wedi trefnu ymarferiad llifogydd mawr fory  Ddydd Mercher 10fed Ebrill lle byddant yn rhoi eu sgiliau cydweithio ar brawf.

Bydd cynrychiolwyr o'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, Heddlu Gogledd Cymru, yr RNLI, Tîm Chwilio ac Achub yr Awyrlu Brenhinol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gwynedd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yr RSPCA, Cymdeithas Achub Ardal yr Hafren, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Cymdeithas y Modurwyr a Chymdeithas Achub ar y Mynydd Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn Ymarferiad Brwyn drwy lwyfannu senarios achub o lifogydd dan amgylchiadau heriol yn ardal y Bala yng Ngwynedd.

Nod yr ymarferiad yw adeiladi ar lwyddiant yr ymarferiad llifogydd a gynhaliwyd y llynedd (Ymarferiad Gwynedd), dysgu gwersi o'r llifogydd diweddar a phrofi cydnerthedd.

Mae Paul Claydon, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn egluro: "Mae un o bob chwe eiddo yng Nghymru a Lloegr mewn perygl o ddioddef llifogydd. Dim ond drwy gydweithio ac ymarfer gyda'n gilydd y gallwn fod yn barod i amddiffyn bywydau, cartrefi a bywoliaeth pobl pan fydd llifogydd yn digwydd.

"Bydd yr ymarferiad yn y Bala yn profi ein hymateb i lifogydd trymion o afonydd, y môr, cronfeydd dŵr, dŵr daear a dŵr wyneb yn ystod nifer o senarios posibl a allai ddigwydd yn ystod argyfwng llifogydd.

"Fel nifer o ymatebwyr brys, mae'r gwasanaeth tân ac achub wedi hen arfer delio gyda llifogydd a allai achosi effeithiau pellgyrhaeddol fel caethiwo pobl yn eu ceir, peryglu da byw ac, ar eu gwaethaf, beryglu cartrefi, bywoliaeth pobl a hyd yn oed fywydau.  Mae'r ymarferiad yn y Bala wedi ei gynllunio i roi sgiliau, adnoddau ac offer yr ymatebwyr cyntaf ar waith fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn barod i ymateb i'r math yma o ddigwyddiadau.

"Bydd y senario yn cynnwys achub anafusion sydd wedi eu caethiwo, achub pobl o ddŵr cyflym a galw ar nifer o offer achub a staff hyfedr yn ardal y Bala.

"Bydd yr ymarferiad llifogydd yn rhoi profiad hanfodol iawn i'r rhai hynny sydd yn perthyn i'r gwasanaethau brys ac yn profi eu gwytnwch yn ystod cyfnodau anodd."

Cyn yr ymarferiad ei hun, cynhaliwyd

Fe ychwanegodd Derek Masson, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chadeirydd Grŵp Achub o Ddŵr a Llifogydd Mewndirol Cymru:

"Sefydlwyd Grŵp Achub o Ddŵr a Llifogydd Mewndirol Cymru i wella'r modd y mae ymatebwyr brys yng Nghymru  yn ymateb i  lifogydd ac er mwyn ein galluogi i ymateb i lifogydd fel tîm.  Mae'r grŵp wedi rhoi cyfle i'r holl asiantaethau ddatblygu ymarferion a gweithdrefnau, a fydd yn cryfhau ein gallu i ddarparu ymateb brys o'r radd flaenaf ar hyd a lled Cymru.

"Bydd yr ymarfer yn y Bala yn rhoi cyfle i ni brofi'r ymarferion a'r gweithdrefnau hyn - bydd y canlyniadau'n helpu i ddyblygu'r grŵp. Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, fel aelod allweddol o'r grŵp, am gynnal yr ymarferiad."

Cynhaliwyd diwrnod diogelwch cymunol ac ymwybyddiaeth yng Nghanolfan hamdden y Bala Ddydd Mawrth 19eg Mawrth i roi gwybod i bobl am y digwyddiad ymlaen llaw a help pobl leol i ddysgu mwy am y modd y mae ymatebwyr brys yn barod i ymateb i lifogydd.  Yn ystod y diwrnod ymwybyddiaeth roedd cyfle i bobl dderbyn cyngor ar ddiogelwch tân ynghyd â chyfle i gwrdd â staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Tîm Chwilio ac Achub yr Awyrlu Brenhinol a'r RNLI.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen