Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn gwesty yn Llandudno

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn ymdrin â thân mewn gwesty yn Llandudno ar hyn o bryd.

 

Galwyd criwiau i'r digwyddiad am 20.11o'r gloch heno (Nos Sul 26ain Mai) yn dilyn adroddiadau bod tân yn nho Gwesty'r Alexandra Hotel ar Stryd Clonmel.

 

Roedd criwiau o Landudno, Conwy, Bae Colwyn a Llanfairfechan yn bresennol, ynghyd â'r peiriant cyrraedd yn uchel a'r uned meistroli digwyddiadau o'r Rhyl.

 

Fe ddefnyddiodd diffoddwyr tân chwe set o offer anadlu, tair pibell ddŵr ac un prif bibell i frwydro yn erbyn y fflamau a chwilio'r adeilad pum llawr.

 

Daethpwyd o hyd i'r holl westeion ac aelodau staff ac ni chafod unrhyw un ei anafu yn ystod y digwyddiad.

                                                                     

Y mae Stryd Mostyn yn parhau i fod ar gau i gerbydau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen