Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Chwyldro mewn addysg i yrwyr ifanc

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn lansio cwrs deuddydd newydd ac arloesol  gyda'r nod o addysgu gyrwyr ifanc ar hyd a lled y rhanbarth.

 

Mae 'Chwyldro', sydd wedi ei ddisgrifio fel 'dull newydd a rhagweithiol o ddarparu addysg diogelwch ffordd', wedi ei anelu at bobl ifanc rhwng 16 - 25 mlwydd oed sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu ar y ffordd yn eu hardal. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi nawdd o £118, 809 i ariannu'r cwrs yn 2014 a 2015.

 

Mae'r cwrs yn cael ei lansio Ddydd Gwener yma (Mehefin 13eg) yng Ngholeg Cambria, Wrecsam, fel rhan o wythnos o weithgareddau sydd wedi eu trefnu gan nifer o asiantaethau i gefnogi Wythnos Diogelwch Ffordd y DU.

 

Mae'r cwrs rhyngweithiol, sydd wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru, yn delio gydag agweddau megis canlyniadau marwolaethau neu anafiadau difrifol ar y gyrwyr, y teithwyr eu teulu a'u cyfeillion yn ogystal â'r effeithiau seicolegol, cosbol ac ariannol o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffordd.  

 

Mae'r cwrs hefyd yn ymgysylltu gyda theuluoedd sydd wedi colli rhywun mewn gwrthdrawiad yn ogystal â llwyfannu gwrthdrawiad traffig realistig gan ddangos y mesurau a gymerir i ryddhau person o gerbyd.  Bydd yn rhaid i'r cyfranogwyr hefyd gwblhau prosiect fel rhan o dîm yn ystod y cwrs.

 

Mae nifer o asiantaethau wedi cyfrannu tuag at y cwrs ac mae'r cwrs yn seiliedig ar bum prif achosion gwrthdrawiadau ffordd yng Nghymru, sef y '5 Angheuol' - goryrru, alcohol a chyffuriau, ffonau symudol, gwregysau diogelwch a gyrru peryglus ac anghymdeithasol.

 

Cynhelir y cyrsiau mewn gorsafoedd tân ar hyd a lled y Gogledd, a bydd y cwrs cyntaf yn digwydd ym Mhrestatyn fis nesaf.

 

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru :

"Rydym yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru ar y cwrs newydd yma a fydd yn ymgysylltu gyda phobl ifanc mewn ffordd ragweithiol er mwyn eu helpu i sylweddoli canlyniadau eu gweithredoedd y tu ôl i'r llyw.

 

"Dro ar ôl tro rydym yn cael ei galw i ddigwyddiadau trasig yn ymwneud â phobl ifanc - gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd yw prif achos marwolaethau ymhlith pobl ifanc, felly mae'n hanfodol ein bod yn chwilio am ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ffordd."

 

Meddai'r Prif Arolygydd Darren Wareing, Uned Plismona'r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: "Drwy weithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Tân ac Achub rydym yn croesawu'r cyfle i fynd i'r afael â'r broblem o ddiogelwch ffyrdd a cheisio gwella ymddygiad gyrwyr.

" Mae'r Heddlu a'r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi dod wyneb yn wyneb â marwolaethau ar y ffordd yn llawer rhy aml ynghyd â'r bywydau sy'n cael eu dinistrio yn dilyn gwrthdrawiad traffig difrifol ar y ffordd.

"Mae'r boen a'r marwolaethau diangen yn effeithio ar deuluoedd, cyfeillion a chymunedau ar draws y Gogledd. Drwy weithio gyda'n gilydd rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ac addysgu gyrwyr ynglŷn â pheryglon ymddygiad gwael y tu ôl i'r llyw."

 

Meddai 'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AS:

 

"Yng Nghymru mae 12% o'r boblogaeth yn yrwyr ifanc, ond yn 2012 roeddent i gyfrif am 24% o'r rhai a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar y ffordd.  

 

"Mae damweiniau angheuol yn drasig i deuluoedd a chymunedau ehangach, ond pan mae modd osgoi nifer o'r gwrthdrawiadau hyn sydd yn eu gwneud hyd yn oed yn fwy trasig.

 

"Rwyf yn falch bod y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru wedi trefnu digwyddiadau i gefnogi Wythnos Diogelwch Ffyrdd.  Mae gan y cwrs yma, sydd yn darparu addysg ehangach i'n gyrwyr ifanc ac sy'n delio gyda phum prif achos damweiniau traffig ar y ffordd, y gallu i achub cannoedd o fywydau."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen