Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwedd newydd a ffocws cymunedol i Orsaf Dân Glannau Dyfrdwy

Postiwyd

 

Bydd y gwaith ailwampio yng Ngorsaf Dân Glannau Dyfrdwy, Ffordd Caer, Y Fferi Isaf yn cychwyn y  mis hwn. Y nod yw creu cyfleuster modern a fydd yn diwallu anghenion y diffoddwyr tân a'r gymuned leol.

 

Y mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gychwyn ar y 30ain o Fehefin ac y bydd wedi ei gwblhau erbyn mis Mai 2015.

 

Mae Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy yn Orsaf Dân Amser Cyflawn sydd gan bedair gwylfa amser cyflawn ac un wylfa rhan amser.  Mae'r diffoddwyr tân yn ymateb i ddigwyddiadau yng Nglannau Dyfrdwy a thu hwnt, ac y maent hefyd yn ymateb i ddigwyddiadau dros y ffin yn Swydd Gaer. Fe agorwyd yr orsaf dân bresennol ym 1964 ac nid yw'r adeilad wedi newid fawr ddim ers hynny.

 

MeddaiDawn Docx, Dirprwy Brif Swyddog Tân: "Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y gwaith ailfodelu a fydd yn darparu cyfleusterau modern i'n staff yn ogystal ag ystafelloedd cyfarfod ar gyfer grwpiau cymunedol a'n partneriaid.  Yn ogystal ag ymateb i ddigwyddiadau, mae atal tanau rhag digwydd yn y lle cyntaf yn rhan fawr o waith unrhyw wasanaeth tân ac achub modern - felly mae hi'n hanfodol ein bod ni'n meithrin perthynas agosach gyda'r gymuned leol er mwyn helpu i amddiffyn trigolion lleol."

 

Yn dilyn prynu safle Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru drws nesaf, byddwn yn  estyn yr ystafelloedd ar y llawr isaf drwy ddymchwel y wal rhwng yr orsaf ambiwlans ar orsaf dân, i wneud lle i ragor o faeau peiriannau  yn y cefn.  Byddwn yn rhoi cladin a tho newydd ar yr adeilad yn ogystal â chodi estyniad.  Byddwn yn dymchwel y tŷ hyfforddi presennol ac yn codi un  newydd yn ei le.  Bydd gweithgareddau anweithredol yn cael eu cynnal ger y fynedfa a bydd y dderbynfa yn symud i'r brif swyddfa bresennol.

Bydd y gwaith ailwampio hefyd yn golygu cyfleusterau gwell i'r Gwasanaeth Ambiwlans, sef cyfleusterau hyblyg ac ystafelloedd pwrpasol i'r staff ambiwlans, sydd yn cael eu darparu fel rhan o gynlluniau'r gwasanaeth ambiwlans ar gyfer y dyfodol.  Bydd y cyfleuster hefyd yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod ar gyfer staff, grwpiau cymunedol a phartneriaid.

Fe ychwanegoddDawn Docx: "Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi yn ein hadeiladau ar gyfer y dyfodol fel rhan o'n strategaeth i gadw costau i lawr yn y tymor hir.  Mae'r adeilad presennol yn hanner cant ac nid yw'n cwrdd â'r ddeddfwriaeth bresennol.

 

"Rydym yn awyddus i fod yn fwy agored i'r gymuned ac rydym yn ffyddiog y bydd y gwaith ailwampio yn helpu i greu cyfleuster cyfoes a fydd yn helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i barhau i wasanaethu'r gymuned leol yn awr a thros y degawdau nesaf."

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen