Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa'r cyhoedd i Feddwl yn Ddiogel, Coginio'n Ddiogel!

Postiwyd

Mae swyddogion tân yn rhybuddion ynglyn â pheryglon gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno yn dilyn nifer o danau cegin dros y tridiau diwethaf.

 

Mae criwiau wedi cael eu galw i danau cegin yng Nghei Conna, Pwllheli, Llangefni, y Rhyl a dau yn ardal Wrecsam ers dydd Sadwrn.

 

Meddai Justin Evans, Rheolwr Ymateb: "Coginio yw un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd Cymru, dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio am fwyd sydd yn coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, os oes rhywbeth yn mynd â'ch sylw, neu os ydych wedi bod yn yfed. Ond fe all y canlyniadau fod yn drychinebus.

 

"Anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon yn rhy hir, gorboethi sosban sglodion, llosgi tost, gadael y popty ymlaen - fe all y rhain greu cawlach yn y gegin a hyd yn oed achosi anafiadau difrifol neu'n waeth byth, ladd rhywun."

 

Dyma air i gall gan Justin ynglyn â sut i gadw'n ddiogel yn y gegin:

Os oes raid i chi adael yr ystafell tynnwch y bwyd oddi ar y gwres

Peidiwch â defnyddio matsis na thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio  yn llawer mwy diogel

Gwnewch yn siwr nad ydi dolenni sosbenni yn mynd dros ochr y popty

Cadwch y popty, pentan a'r gridyll yn lân - fe all saim sydd wedi casglu fynd ar dân

yn hawdd iawn

Peidiwch byth â hongian dim byd uwch ben y popty

Cymrwch bwyll os ydych yn gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn

Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siwr bod popeth wedi ei ddiffodd

Diffoddwch gyfarpar trydan os nad ydych yn eu defnyddio

Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodion - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd

gan thermostat i reoli'r gwres

Gosodwch larymau mwg - maent ar gael yn rhad ac ddim a gallant achub eich

bywyd.

 

Cofiwch fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, a'n bod yn gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim, galwch ein llinell ffôn 24 awr 0800 1691243, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk, neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda'r gair HFSC.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen