Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dau dân cannwyll dros nos yn ysgogi rhybudd

Postiwyd

Mae diogelwch canhwyllau unwaith eto yn cael ei bwysleisio, ar ôl dau dân yn deillio o adael canhwyllau heb unrhyw un i gadw llygad arnynt.

 

Galwyd criwiau o’r Wyddgrug a Bwcle i eiddo ar Glyndwr Road, Gwernymynydd am 01.45 o’r gloch y bore (ddydd Llun 14 Rhagfyr) gydag adroddiadau o dân yn ystafell fyw’r eiddo. Roedd cannwyll wedi ei gadael wedi cynhesu PVC sil ffenestr – achosodd y tân ddifrod tân 100% i’r sil ffenestr a 10% difrod mwg i’r ystafell fyw.

 

Galwyd diffoddwyr tân o Dreffynnon a’r Fflint i eiddo ar Greenacre Drive, Bagillt am 05.32 o’r gloch i ddelio â thân oherwydd cannwyll a oedd wedi ei gadael yn rhy agos i soffa. Taniodd y gannwyll y soffa, clustogau a’r carped ac achosodd ddifrod tân i’r eitemau hyn a 5% difrod mwg i’r ystafell fyw.

 

Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint: “Mae pobl yn tueddu i ddefnyddio canhwyllau fwy yn ystod misoedd y gaeaf, ac yn enwedig dros y Nadolig. Gellir defnyddio canhwyllau mewn amrywiol ffyrdd, megis ffynhonnell golau, gwres neu addurn yn unig, ond mae’n bwysig bod pobl yn ymwybodol o’r peryglon y gall canhwyllau eu hachosi.

 

"Rydym yn cynghori pobl i defnyddio canhwyllau bach sy'n gweithio â batri. Maent ar gael yn rhad ac yn gweithio â batri, yn hytrach na fflam. Maent yr un mor effeithiol o ran creu awyrgylch ond yn llawer mwy diogel na chanhwyllau."

 

Mae’n hanfodol bwysig bod trigolion yn dilyn y cyngor diogelwch isod wrth ddefnyddio canhwyllau:

- Peidiwch byth â gadael cannwyll, a chofiwch ei diffodd cyn mynd i gysgu

- Sicrhewch bod y gannwyll yn sefyll i fyny a’i bod wedi ei gosod yn ddiogel fel na all gwympo trosodd – mae canhwyllau arogl yn troi’n hylif felly dylid eu llosgi mewn cynhwysydd gwydr neu fetel sy’n medru gwrthsefyll gwres ac fel na all yr hylif redeg allan

- Dylid rhoi canhwyllau ar wyneb sy’n gwrthsefyll gwres

- Cadwch ganhwyllau allan o ddrafftiau a ffynonellau gwres uniongyrchol neu olau haul

- Gadewch o leiaf 10cm rhwng canhwyllau a pheidiwch byth â’u dodi dan silffoedd neu wynebau eraill

- Diffoddwch y gannwyll cyn iddi losgi’r cynhwysydd

- Llosgwch ganhwyllau’n ddigon pell oddi wrth blant

- Diffoddwch ganhwyllau cyn eu symud

- Gosodwch larwm mwg bob amser yn eich eiddo, ond dylid ystyried larwm mwg ychwanegol lle llosgir canhwyllau yn rheolaidd

- Peidiwch ag estyn dros ganhwyllau

- Ni ddylid defnyddio canhwyllau awyr agored dan do

- Peidiwch â chwarae gyda chanhwyllau trwy ddodi rhywbeth arall yn y gŵyr poeth

 

I gael archwiliad diogelwch cartref am ddim a chyngor diogelwch tân yn eich cartref, ffoniwch linell radffon 24 awr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 0800 169 1234 neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk neu anfonwch neges testun i 88365, gan sicrhau bod y neges yn dechrau gyda’r gair HFSC.

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen