Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch Beicwyr Modur ar y Ffordd

Postiwyd

 

Â’r haf ar ei anterth, mae pryder cynyddol ynglŷn â’r peryglon y mae beicwyr modur yn eu hwynebu ar y ffyrdd yng Nghymru ac mae hyn wedi arwain at ddull cydweithredol i geisio lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu hanafu ar ein ffyrdd.  Wrth i’r tywydd wella mae beicwyr modur wedi bod yn tyrru tua’r ffyrdd, unai i fwrw’r Sul neu i fynychu ralïau ar draws y wlad, sydd, yn anffodus, yn cynyddu’r perygl o ddamweiniau.

Dengys ffigurau diweddaraf yr heddlu ynglŷn â damweiniau ac anafusion yng Nghymru yn 2014 bod 103 o bobl wedi marw ar ein ffyrdd yn y llynedd, gostyngiad o 7% o gymharu â 2013.  Fodd bynnag, mae ein partneriaid yn Diogelwch Ffyrdd Cymru yn dal i boeni bod y gostyngiad bychan yn nifer yr anafusion yn gyffredinol wedi cysgodi’r cynnydd yn nifer y beicwyr modur a gafodd  eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd yng Nghymru (10% yn fwy na’r cyfartaledd ar gyfer 2004-08)*

Meddai Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, “Mae Cymru’n croesawu beicwyr modur sy’n cael eu denu i weld ei golygfeydd godidog, lonydd troellog a’r busnesau sy’n eu croesawu.  Fodd bynnag, rydym ni a’n partneriaid yn poeni am y rhai hynny sydd byth yn cyrraedd adre’n ddiogel, boed y rheiny’n mwynhau diwrnod ar y ffordd neu’n teithio i’r gwaith ac adref. 

Yn ogystal â darparu nawdd i wella’n ffyrdd, a darparu addysg a hyfforddiant a fydd o les i feicwyr modur, mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau anafusion ymhlith beicwyr modur wedi arwain at  nawdd i gynnig cystadlaethau agored i ddatblygu ymyrraeth effeithiol neu nodwedd dechnolegol i gyflwyno gwelliannau mesuradwy o ran diogelwch beicwyr modur, unai drwy leihau’r tebygolrwydd o wrthdrawiad, neu liniaru effaith gwrthdrawiad. 

Bydd nifer o feicwyr modur eisoes yn ymwybodol bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Bike Safe, i gynnig cyrsiau ar feicio diogel yn y Rhyl a Phorthmadog.

Wrth gwrs, mae diogelwch ffyrdd yn gyfrifoldeb i bawb a bydd pawb yn elwa  os byddwn yn  rhannu’n ffyrdd mewn dull cyfrifol a chwrtais. Nid yw beicwyr modur, o reidrwydd, ar fai am y gwrthdrawiadau y maent yn rhan ohonynt, ond oherwydd eu bod yn fwy agored i wrthdrawiadau maent yn llawr mwy tebygol o gael eu hanafu’n ddifrifol.  Felly, gofynnir i feicwyr modur ystyried a ydynt yn gyrru’n addas ar gyfer eu hamgylchiadau ac yn unol â’r gyfraith.  

Mae marwolaethau o’r fath yn golled enfawr i berthnasau, ffrindiau a chydweithwyr ac mae Susan Storch am annog pobl i gymryd mantais o’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu mwy a gwella sgiliau:  “Mae hyd yn oed y gyrwyr mwyaf gofalus yn dysgu castiau drwg. Dyma pam bod ein partneriaid ar draws Cymru wedi bod yn cynnig dewis eang o fentrau drwy gydol y flwyddyn, i asesu, hyfforddi ac addysgu beicwyr modur.  Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau cymorth cyntaf rhad ac am ddim a chymorth ariannol i fynychu mentrau cenedlaethol drwy nawdd gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael i bob math o feicwyr modur yn cynnwys rhai sydd yn gyrru sgwteri, pobl sydd yn gyrru i’r gwaith ac adref a phobl sy’n gyrru yn eu hamser hamdden.   Mae modd i deuluoedd chwarae rhan ganolog yn y dasg o ddod â’r cyfleoedd hyn i sylw eu hanwyliaid.”

 

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol  i weld pa gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal chi neu cysylltwch â Diogelwch Ffyrdd Cymru am wybodaeth bellach communication@roadsafetywales.org.uk

* http://gov.wales/statistics-and-research/police-recorded-road-casualties/?lang=cy

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen