Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tanau bwriadol ar safle Ysbyty Gogledd Cymru

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymchwiliad ar y cyd ar ôl digwyddiadau ar safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

Mynychodd diffoddwyr tân a swyddogion yr heddlu ddigwyddiad yn yr eiddo ar ddydd Iau 12fed Mai am 9.04pm lle'r oedd sbwriel yn yr adeilad wedi ei roi ar dân yn fwriadol. Galwyd criwiau a swyddogion yr heddlu i'r un cyfeiriad ar 7fed Mai am 8.12pm i ddelio â thân wedi ei gynnau'n fwriadol.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Tîm Addysg Busnes ac Atal Tanau Bwriadol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau enfawr ar adnoddau, gyda'n criwiau yn ceisio eu cael dan reolaeth, sydd yn ei dro yn golygu bod oedi cyn i'r diffoddwyr tân fedru mynychu digwyddiadau sy'n bygwth bywydau. Efallai mai chi neu aelod o'ch teulu sydd angen ein help ac efallai na fedrwn gyrraedd mor gyflym neu mor hawdd ag yr hoffem oherwydd ein bod yn gorfod delio â thân wedi ei gynnau'n fwriadol.

"Mae cynnau tân yn fwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i ddelio â digwyddiadau bwriadol."

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y tanau hyn gysylltu â swyddogion Heddlu Gogledd Cymru. Fel arall medrwch ffonio Crimestoppers yn ddi-enw ar 0800 555111.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen