Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwobrau Diogelwch Cymunedol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ennill dwy wobr genedlaethol i gydnabod ei waith diogelwch cymunedol.

Bwriad Gwobrau Cymunedol Gwelliannau Parhaus Cymru Gyfan 2016 yw adnabod a dathlu gwelliannau parhaus ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac annog adnabod a rhannu arferion gorau.

Cyflwynwyd y ddwy wobr i’r Gwasanaeth mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd yr wythnos ddiwethaf – un wobr yn y categori ‘Gwerth Cyhoeddus’ am Archwiliad Diogelwch Cartref Integredig ac ail wobr yn y categori “Cydweithredu’ am waith Tîm Prosiect Atal ac Ymateb y tri Gwasanaeth.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Datblygwyd y cynllun gwobrau hwn gyda’r nod trosfwaol o rannu arferion da a chefnogi’r ymgyrch i gael gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel yng Nghymru. Mae’n dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyda gwobrau dan y categorïau Arweinyddiaeth, Gwerth Cyhoeddus, Cydweithredu ac Arloesi.

"Cafwyd ymarfer pleidleisio arlein ar y ffurflenni cyflwyno, gan alluogi i’r gymuned gyfan sgorio’r ceisiadau. 

"Cafodd tri enwebiad eu rhoi ar y rhestr fer ym mhob categori – ac aeth y gwasanaeth tân ac achub ymlaen i ennill dau gategori a chael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer categori arall.

“Paratodd staff fideos yn esbonio ychydig mwy am y mentrau a’r timau, a beirniadwyd ein cyflwyniadau ni yn erbyn prosiectau o gyfundrefnau gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad.

"Mae cael cydnabyddiaeth fel hyn o’r ymrwymiad a’r egni a ddangosir gan y staff dan sylw yn pwysleisio potensial y prosiectau hyn. Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled y Gwasanaeth a’i staff wedi ei amlygu ac edrychwn ymlaen at yrru ymlaen gyda gwelliannau pellach a mwy o arloesi yn y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen