Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am beryglon sosbenni sglodion yn dilyn tân

Postiwyd



Heddiw mae diffoddwyr tân wedi cyhoeddi rhybudd pellach ynglŷn â pheryglon gadael bwyd yn coginio wedi i sosban sglodion fynd ar dân yn Wrecsam – daw’r rhybudd ychydig  ddyddiau wedi i ni annog pobl i daflu ei sosbenni sglodion yn ystod Wythnos Genedlaethol Sglodion.  

Anfonwyd peiriannau tân o Wrecsam a Johnstown i Ffordd Maesgwyn, Wrecsam am 8.29pm nos Sul 26ain Chwefror i ddelio gyda thân mewn cegin.  Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddau set o offer anadlu a phibell dro i ddiffodd y tân. 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Yn ffodus iawn, nid oedd y preswylwyr yn yr eiddo ar adeg y tân neu fe allai’r digwyddiad fod wedi bod yn fwy difrifol o lawer.  Fodd bynnag, fe aethant yn ôl i mewn i’r eiddo i nôl eitemau ac o’r herwydd roedd yn rhaid iddynt gael triniaeth ragofalol
 
"Roedd y tân wedi ei gyfyngu i ardal y gegin ond fe achosodd ddifrod mwg i’r adeilad cyfan. Digwyddodd y tân gwta wythnos wedi i ni gyhoeddi negeseuon yn ystod Wythnos Genedlaethol Sglodion  i rybuddio pobl am beryglon sosbenni sglodion.
 
“Fe all gadael sosban sglodion ar y gwres, hyd yn oed am eiliad, fod yn drychinebus gan fod modd i’r olew orboethi a mynd ar dân - fe all hyd yn oed y peth lleiaf dynnu’ch sylw ac achosi tân mewn ychydig eiliadau.

 

“Mae sglodion popty yn opsiwn mwy diogel ac iach ond os ydych yn dewis ffrio mewn saim dwfn cofiwch gadw llygaid arno. Os aiff eich sosban sglodion ar dân, peidiwch â thaflu dŵr arni.  Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.

 

“Neu well fyth - taflwch eich hen sosban sglodion a defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres.”

 

 “Fe all tân bychan ddatblygu i fod yn dân difrifol a pheryg bywyd mewn ychydig funudau. Os bydd tân yn cynnau a chithau yn eich gwely, rydych mewn trwbl – drwy anadlu dim ond ychydig o fwg fe allwch gael eich taro’n anymwybodol.”


Os ydych yn dewis ffrio sglodion, dilynwch y cyngor isod i leihau’r perygl o dân;

  • Peidiwch â gorlenwi’r sosban gydag olew – byth dim mwy nag un rhan o dair yn llawn
  • Byddwch yn ofalus nad yw’n gordwymo – gall olew poeth fynd ar dân yn hawdd
  • Defnyddiwch declyn ffrïo dwfn sy’n rheoli tymheredd, a fydd yn sicrhau nad yw’r olew yn mynd yn rhy boeth
  • Peidiwch byth â thaflu dŵr ar dân mewn sosban sglodion
  • Eisiau bwyd ar ôl bod yn y dafarn? Peidiwch â choginio ar ôl yfed alcohol
  • Os oes tân, gwnewch yn siŵr bod gennych lwybr dianc
  • Peidiwch â chymryd risg trwy geisio diffodd y tân – ewch allan a ffonio 999
  • Gosodwch larwm mwg a’i brofi’n rheolaidd
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen