Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych

Postiwyd

Mynychodd criwiau dân ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych am 03.04am fore heddiw (Dydd Gwener 2il Mehefin).

 

Mynychodd mwy na 40 o diffoddwyr tân o Ddinbych, Rhuthun, y Rhyl, Treffynnon, Abergele, Cerrigydrudion a’r Wyddgrug y digwyddiad yn ystod y nos.

 

Mae to yr adeilad wedi cwympo gan adael yr adeilad mewn cyflwr anniogel. Bydd diffoddwyr tân ar y safle am beth amser er mwyn diffodd y tân.

 

Gofynnir i fodurwyr osgoi’r ardal er mwyn caniatáu i’r gwasanaethau argyfwng ddelio â’r digwyddiad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen