Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Galw peiriannau sychu dillad Beko a Blomberg yn ôl

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gofyn ar i’r cyhoedd wirio eu peiriannau sychu dillad wedi i nam gael ei ddarganfod mewn rhai peiriannau.

Mae Beko wedi cyhoeddi hysbysiad diogelwch ynglŷn â 3,450 o’i beiriannau sychu dillad cyddwyso ac mae’n gofyn ar i gwsmeriaid beidio â’u defnyddio rhag ofn iddynt achosi tân.

Mae Beko wedi gofyn ar i gwsmeriaid sydd berchen peiriannau sychu dillad cyddwyso Beko a Blomberg 8kg a 9kg a gynhyrchwyd rhwng Mai a Thachwedd 2012 i gofrestru am beiriant newydd yn rhad ac am ddim ar ôl gwirio rhif y model.  

Mae’r modelau canlynol wedi eu heffeithio DCU9330W, DCU9330R, DCU8230, TKF8439A, a DSC85W. 

Os ydych chi’n poeni eich bod yn berchen un o’r modelau yma ewch i wefan Beko www.beko.co.uk neu safle atgyweirio Blomberg www.blomberguk.com - rhowch rif y model yn y gwiriwr  neu ffoniwch 0800 917 2018.
 
Meddai Beko yn ei rybudd: "Fel rhan o waith monitro arferol rydym wedi darganfod bod rhai peiriannau yn cynnwys darn a gynhyrchwyd gan drydydd parti sydd, ar adegau prin, yn gallu methu a gorboethi, ac fe all hyn achosi tân.” 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydym yn gofyn ar i bobl wirio eu cyfarpar ar unwaith a chysylltu gyda Beko neu Blomberg os oes ganddynt un o’r modelau yma yn eu meddiant. Yn y cyfamser dylent stopio defnyddio’r cyfarpar os ydy’r model y maent yn ei ddefnyddio wedi cael ei alw yn ôl.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen