Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio offer llifogydd ac achub dŵr newydd i gefnogi gwasanaethau tân ac achub Cymru

Postiwyd

Ledled Cymru gyfan, galwyd diffoddwyr tân i bron i 2000 o ddigwyddiadau llifogydd a digwyddiadau cysylltiedig â dŵr yn y tair blynedd ddiwethaf.

Heddiw, cafodd offer newydd ei lansio gan y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi criwiau sy’n mynychu llifogydd a digwyddiadau achub.

Mae llifogydd yn fater sy’n achosi pryder cyhoeddus cynyddol ac wrth weithio i liniaru risg llifogydd mae’n bwysig bod yn barod i ymateb pan fydd yn digwydd.

Ym mis Ebrill y llynedd, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddyletswydd newydd i wasanaethau tân ac achub i ymateb i lifogydd ac argyfyngau achub o’r dŵr, gyda chyllid o £1.8m yn cael ei ddarparu dros ddwy flynedd i gyflawni’r ddyletswydd newydd.

Fel rhan o hyn, prynwyd 16 o gychod pŵer pwmpiadwy a’u dosbarthu i leoliadau ledled Cymru. Hefyd, caffaelwyd offer amddiffynol personol i ychwanegu at yr offer presennol yn y tri gwasanaeth; mewn rhai achosion mae peth o’r offer hwn wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers 2004.

Mae’r cyllid cyfalaf hwn gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi galluogi i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gaffael Bwmp Swmp Uchel (HVP) a fydd yn darparu gwytnwch rhanbarthol a chenedlaethol.

At hyn, mae’r ymrwymiad ariannol wedi rhoi cyfle i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i gaffael chwe uned digwyddiad dŵr newydd a fydd hefyd yn cynorthwyo gyda digwyddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Meddai Darren Jones, Pennaeth Cymorth Technegol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Made’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i fuddsoddi mewn offer o’r fanyleb uchaf a fydd yn fanteisiol wrth ymateb i lifogydd yng Nghymru.

“Roedd y broses gaffael ar gyfer yr offer newydd yn gofyn am gydweithio rhwng y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru ac yn dwyn ynghyd arbenigwyr nid yn unig o fewn y gwasanaethau, ond hefyd asiantaethau partner eraill megis yr RNLI, sydd â sgiliau a gwybodaeth berthnasol.

“Roedd y treial cwch pŵer yn enghraifft dda o sut roedd caffaeliad yn cael ei arwain gan gyfranogiad y defnyddiwr yn y pen draw. O ganlyniad, mae ein cychod newydd yn blaenoriaethu diogelwch diffoddwyr tân; byddant yn cynnig gwell perfformiad a gwytnwch mewn digwyddiadau llifogydd mawr a bydd yn haws ac yn ddiogelach trin y cychod, gyda llai o waith cynnal a chadw. Maent hefyd yn cymryd ffactorau amgylcheddol i ystyriaeth ac maent yn gychod mwy cadarn ar gyfer dyfodol ymateb Cymru i lifogydd.

“Mae gan Bympiau Swmp Uchel (HVPs) well gallu ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol, gan liniaru effeithiau llifogydd fel sydd i’w weld o’r dystiolaeth mewn digwyddiadau ledled Cymru a gweddill y DU.

"Mae’r HVP yn gydnaws â’r HPV presennol yng ngweddill y DU i sicrhau cysondeb o ran pwrpasau gweithredol a hyfforddiant, ynghyd â medru gweithio ar y cyd mewn digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol. “Gyda’r newid hwn daw gwell diogelwch cyhoeddus wrth ymateb i alwadau am gymorth. “Bydd yr offer newydd yn gwella galluoedd a diogelwch staff, gan roddi inni’r adnoddau gorau i’n helpu ni i amddiffyn cymunedau Cymru.”

Meddai Rheolwr Gorsaf Carwyn Thomas, Swyddog Ymchwil a Datblygiad ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Wrth i rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub barhau i esblygu, rhaid i ni ddarparu’r offer gorau un i’n diffoddwyr tân i’w hamddiffyn pan elwir arnynt i’ch amddiffyn chi.

“Yn y tair blynedd ddiwethaf, mae GTACGC wedi mynychu mwy na 180 o ddigwyddiadau cysylltiedig â dŵr lle mae pobl wedi eu hachub. “Bydd gan ein timau achub dŵr nawr yr offer i ymateb i ddigwyddiadau achub dŵr, gan ddefnyddio’r cychod achub newydd, erbyn mis Mai 2018 ynghyd â’n Hunedau Achub Llifogydd a Dŵr, a fydd yn cludo’r cychod newydd i ac o ddigwyddiadau.”

Ychwanegodd Jan Bushell, Rheolwr Gorsaf, Tîm Peiriannau Gweithredol ac Offer ac arweinydd prosiect ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae’r treialon helaeth yn cynnwys y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi sicrhau bod y peiriannau a’r offer gorau, a’r offer amddiffynnol personol gorau wedi ei ddewis, gan alluogi i ddiffoddwyr tân Cymru fedru ymateb i ddigwyddiadau achub dŵr mor ddiogel ac effeithiol ag y bo modd.

“Mae’r cydweithredu llwyddiannus rhwng y tri Gwasanaeth yng Nghymru yn enghraifft wych o sut y gall cyfuno adnoddau arwain at well ymateb gweithredol a gwell diogelwch diffoddwyr tân tra’n sicrhau gwerth gorau.”

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Alun Davies: “Rydym wedi darprau’r buddsoddiad hwn i sicrhau y gall ein gwasanaethau tân barhau i esblygu ac ymateb i fygythiadau megis llifogydd. Rwy’n falch o weld bod y gwasanaethau wedi cydweithredu er mwyn cael gwerth am arian ac i sicrhau bod gan ein diffoddwyr tân yr offer gorau posibl er mwyn amddiffyn ein cymunedau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen