Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio Prentisiaethau Diffoddwyr Tân ac Arweinwyr y Dyfodol yn y Flwyddyn Newydd

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwahodd pobl â diddordeb mewn amddiffyn eu cymuned i gofrestru eu diddordeb mewn dwy brentisiaeth gyffrous yn ystod y cyfnod cofrestru o 7 diwrnod yn y flwyddyn newydd.

 

Bydd y porth cofrestru ar gyfer y Prentisiaethau Diffoddwyr Tân ac Arweinwyr y Dyfodol yn agor am hanner dydd ar 06/01/20 ac yn cau am hanner dydd ar 13/01/20.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Gweithrediadau gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym ni’n gobeithio denu ceisiadau gan bobl sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ac amddiffyn eu cymuned. Nid oes y fath beth â diffoddwr tân arferol, ac mae’n bwysig ein bod ni’n adlewyrchu’r gymuned yr ydym ni’n ei gwasanaethu.

 

“Does dim terfyn oedran ar gyfer y prentisiaethau hyn – maent ar gael i bobl 18 oed a hŷn sydd wedi ymrwymo i ddysgu sgiliau newydd i gwblhau prentisiaeth tair blynedd.

 

“Mae Diffoddwyr Tân Prentis yn cwblhau rhaglen hyfforddi i ddod yn ddiffoddwyr tân ‘cymwys’ ac, yr un mor bwysig, ymgyfarwyddo gyda’r llu o wahanol swyddogaethau sydd yn cyfrannu tuag ddarparu gwasanaeth tân ac achub modern.

 

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymateb i bob math o wahanol ddigwyddiadau megis tanau, gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd, llifogydd, tanau yn yr awyr agored a gollyngiadau cemegol ond bydd ein prentisiaid hefyd yn dysgu sut mae ein timau a’n partneriaid yn codi ymwybyddiaeth ac atal digwyddiadau trwy ddarparu cyngor diogelwch cymunedol a rhaglenni addysgiadol.

 

“Mae’r fframwaith ar gyfer Arweinwyr y Dyfodol dan brentisiaeth yn ymgorffori’r modiwlau diffoddwyr tân prentis gyda datblygiad pellach i’w paratoi ar gyfer rôl rheolwr goruchwylio ac uwch.

 

“Mae prentisiaethau yn rhan allweddol o’r strategaeth gyflogaeth genedlaethol ac rydym ni’n falch o gael cynnig y prentisiaethau arloesol hyn.”

 

Am ragor o wybodaeth ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen