Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymgyrch Dawns Glaw

Postiwyd

Bydd Ymgyrch Dawns Glaw yn cael ei lansio'r wythnos hon, sef partneriaeth amlasiantaeth i leihau tanau bwriadol ledled Cymru. Gyda'r rhagolygon am dywydd sych a chynnes dros y penwythnos, a thros yr wythnosau sydd i ddod, mae Gwasanaethau Tân ledled Cymru yn annog aelodau o'r cyhoedd i fod yn gyfrifol. Hyd yma eleni mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru wedi delio â 67 o danau glaswellt, gyda 52 ohonynt wedi'u cofnodi'n rhai bwriadol. Dros benwythnos 20 Mawrth 2020, cofnodwyd dros 25 o ddigwyddiadau unigol o danau glaswellt ledled Cymru yn unig! Mae tanau glaswellt bwriadol yng Nghymru yn rhoi baich diangen a niweidiol ar ein cymunedau, ac yn dinistrio cynefinoedd ein bywyd gwyllt. Trwy orfod ymladd tanau glaswellt bwriadol, mae'n bosibl na fydd diffoddwyr tân ar gael ar gyfer tanau sy'n bygwth bywydau na damweiniau ffyrdd yn rhywle arall.

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru wedi delio â 3,230 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thanau glaswellt dros y pum mlynedd diwethaf, sydd wedi costio miliynau o bunnoedd i economi Cymru bob blwyddyn, gyda llawer ohonynt wedi cael eu cynnau'n fwriadol.

Gan gydnabod yr effaith y mae tanau glaswellt bwriadol yn ei chael ar ein cymunedau, sefydlwyd Ymgyrch Dawns Glaw yn 2015 gan dri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru, a hynny gyda chefnogaeth gan amrywiaeth o bartneriaid a chymorth gan Lywodraeth Cymru. Nod y tasglu yw mynd i'r afael â mater parhaus sy'n ymwneud â thanau glaswellt a'r holl danau bwriadol eraill yng Nghymru, ynghyd â'u heffaith ar y gymuned.

Dywedodd Mydrian Harries,  Arweinydd y Tasglu ar gyfer Ymgyrch Dawns Glaw: Mae ymgysylltu â'n cymunedau wrth wraidd ein gwaith gwerthfawr i atal llosgi bwriadol. Mae Ymgyrch Dawns Glaw yn ein galluogi i ddarparu amrywiaeth eang o negeseuon ynghylch atal tanau a llosgi mewn modd diogel ledled ardal helaeth ein Gwasanaeth. Mae ein gwaith hyd yma wedi amlygu y bydd aelodau or cyhoedd yn aml yn gwybod pwy sydd wedi cynnau'r tanau bwriadol hyn yn eu cymunedau, a byddem yn annog y cyhoedd i gefnogi ein gwaith i atal y tanau hyn rhag cael eu cynnau a rhoi gwybod i'r Heddlu neu Crimestoppers am y rheiny sy'n gyfrifol.

Tra bydd pob un ohonom yn cydweithio â'n gilydd i gefnogi ein cymunedau trwy aros gartref yn ystod epidemig COVID 19, nid oes yna le i danau bwriadol yn ein cymdeithas, yn enwedig yn y sefyllfa bresennol. Mae tanau glaswellt bwriadol yn lleihau ansawdd aer ac yn tynnu gwasanaethau brys gwerthfawr i ffwrdd o ddigwyddiadau achub bywyd, felly rydym yn apelio ar bawb i'n helpu ni er mwyn eu helpu nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn".

Mae cynnau tanau glaswellt anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol, a gallai arwain at Gofnod Troseddol. Os byddwch yn gweld rhywun yn cynnau tân yn fwriadol, ffoniwch yr Heddlu ar 101, neu cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111.

I gael rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Dawns Glaw, y Cyd-grŵp Tanau Bwriadol a Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru, ewch i wefan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol.

Arhoswch Gartref!

Yn sgil cau'r ysgolion yn gynnar, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pawb i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru a chadw eu plant gartref.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen