Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Seremoni Wobrwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Cyflwynodd Arglwydd Raglaw Clwyd, Mr Harry George Fetherstonhaugh OBE Fedalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw i staff gweithredol y Gwasanaeth yn ystod Seremoni Gyflwyno a gynhaliwyd tu allan i bencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd yn Llanelwy neithiwr (Dydd Iau Medi 9fed).

Cyflwynir y Fedal am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw i ddiffoddwyr tân gan Gynrychiolydd Ei Mawrhydi i gydnabod 20 mlynedd o wasanaeth.

Meddai Dawn Docx, Prif Swyddog Tân: "Mae derbyn medal yn achlysur pwysig i bob diffoddwr tân ac mae’r seremoni hon yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad pob un o’r derbynwyr i’r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru. Gall pob derbyniwr gymryd balchder a boddhad wrth dderbyn eu Medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da neu Wobr Gwasanaeth Ffyddlon.

"Oherwydd yr amgylchiadau coronafeirws, y llynedd bu’n rhaid i’r Gwasanaeth wneud y penderfyniad anodd i ohirio Seremoni Wobrwyo 2020 er mwyn amddiffyn staff a gohirio nes ei bod yn ddiogel dod â phobl ynghyd i gydnabod cyflawniadau gweithwyr yn iawn. 

"Roeddwn wrth fy modd eleni felly ein bod wedi gallu trefnu cydnabyddiaeth briodol o staff tra hefyd yn cynnal diogelwch Covid.

"Mae fy llongyfarchiadau a diolch o galon i bawb a fynychodd, yn ogystal ag i'r staff a ddewisodd dderbyn eu medalau neu eu cydnabyddiaeth yn breifat. Gwerthfawrogir eich gwasanaeth yn wirioneddol, gennyf i fel Prif Swyddog Tân, eich cydweithwyr a chan y cymunedau yr ydym i gyd yn eu gwasanaethu."

Meddai’r Cynghorydd Peter Lewis, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Ar ran Aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, hoffwn longyfarch pawb sydd wedi derbyn medal. Diolch yn fawr i chi am eich ymroddiad."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen