Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Anabledd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyflawni ei oblygiadau statudol mewn perthynas â chydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl 2011 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i ystyried y canlynol wrth gyflawni eu dyletswyddau:

  • hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at bobl anabl
  • annog cyfranogiad gan bobl anabl mewn bywyd cyhoeddus

Mae anabledd o ryw fath yn effeithio ar gyfran uchel o’r boblogaeth. Yn benodol, rydym wedi darganfod bod nam ar y golwg, clyw neu anawsterau symudedd yn ffactorau sydd yn cynyddu’r risgiau mewn cartrefi.

Fe all anabledd fod yn ffactor risg mewn perthynas â thân ac mae mesurau wedi cael eu rhoi ar waith i helpu pobl i gadw mor ddiogel â phosib yn y cartref, pethau fel larymau mwg arbennig i bobl fyddar.

Rydym wedi bod yn lleihau’r risgiau tân i bobl anabl ers nifer o flynyddoedd - gyda phartneriaid rydym yn defnyddio’r profiad hwn i ddod o hyd i’r risgiau eraill a all fodoli, yn enwedig mewn perthynas â phobl fregus ac oedrannus.

Rydym yn gweithio’n agos gyda phob math o grwpiau a sefydliadau i bobl anabl i wneud yn siŵr ein bod ni’n deall anghenion pobl gyda phob math o wahanol anableddau, yn cynnwys problemau iechyd meddwl.

Diffiniadau:

  • Anabledd Dysg

Er enghraifft dyslecsia a dyspracsia

  • Salwch neu afiechyd hirdymor

Er enghraifft canser, parlys ymledol (MS) neu HIV, cyflyrau sy’n cael eu categoreiddio fel anableddau yn awtomatig.  Mae cyflyrau eraill neu afiechydon cynyddol megis diabetes hefyd yn cael eu cynnwys yn y categori hwn gan ddibynnu ar yr effaith y maent yn ei gael ar eich bywyd bob dydd   

  • Cyflwr Iechyd Meddwl

Ystyrir cyflwr iechyd meddwl yn anabledd os caiff effaith hirdymor ar eich bywyd o ddydd i ddydd (mae hirdymor yn golygu ei fod yn neu’n debygol o bara mwy na 12 mis). Er enghraifft cyflyrau fel iselder clinigol, sgitsoffrenia ac anhwylderau deubegwn 

  • Nam Corfforol

Fe all hyn gynnwys cyflyrau megis problemau gyda’r cefn neu gyflyrau sydd yn mynd a dod megis arthritis neu asthma

  • Nam ar y Synhwyrau (golwg, clyw ac eraill)

Ni ystyrir gwisgo sbectol i wella’ch golwg yn anabledd

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen