Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi datblygu enw da am lwyddo i recriwtio merched i rolau gweithredol ac anweithredol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd ymhell y tu hwnt i'n gofynion cyfreithiol a’r naw nodwedd warchodedig. Ein nod ydy sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod wedi'u cynnwys a'u bod yn gallu perfformio hyd eithaf eu gallu.

Ers 2018, mae rheoliadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i bob sefydliad sector cyhoeddus a chwmni yn y DU sydd â 250 neu fwy o gyflogeion 'Adrodd ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau'.  Pwrpas hyn ydy dangos y gwahaniaeth rhwng enillion cymedrig (cyfartaledd) a chanolrif (canolbwynt) dynion a merched yn y gweithle.

Mae'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau’n gysyniad gwahanol i gyflog cyfartal. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod dynion a merched yn cael eu talu'n gyfartal am waith o'r un gwerth neu werth tebyg, a bod ein Gwasanaeth yn talu dynion a merched yn gyfartal ar bob gradd.  Fodd bynnag, pan fo un rhyw yn dominyddu yn y rolau sydd ar raddfa gyflog uwch, mae’n naturiol y bydd bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Er mwyn hyrwyddo ymagwedd agored a thryloyw, bydd ein Gwasanaeth yn cyhoeddi adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn flynyddol.  Mae'r adroddiad hwn yn ystyried cyflog yr holl staff ar draws pob rôl – staff rhan amser a llawn amser. Cofiwch fod yr adroddiad ar gyfer 2023 yn dangos y ffigurau a gymerwyd ar y 'dyddiad ciplun' – 31 Mawrth 2023.

Cytunir ar y tâl ar gyfer staff gweithredol ac anweithredol yn genedlaethol a gaiff ei gynnwys yn y 'Llyfr Llwyd' a'r 'Llyfr Gwyrdd' yn y drefn honno. Fel y rhan fwyaf o wasanaethau tân ac achub yn y Deyrnas Unedig, mae gan ein Gwasanaeth nifer uwch o staff gweithredol ac mae'r rhan fwyaf o'n staff gweithredol yn ddynion. Ar y cyfan, mae'r pwyntiau cyflog ar gyfer staff gweithredol ar gyfradd uwch na staff mewn rolau anweithredol.

Er bod gan ein Gwasanaeth nifer o ferched mewn swyddi uwch, dengys y ffigurau hefyd fod gennym fwy o ddynion na merched mewn rolau uwch a rheoli yn gyffredinol. Mae'r ffactorau hyn yn cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar hyn o bryd. Mae'r Gwasanaeth yn rhoi blaenoriaeth i ddenu gweithlu mwy amrywiol, yn enwedig o ran rhyw, ac mae'n cynnal ystod o ymyriadau penodol i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y gweithlu.

Gallwch weld Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer 2023 yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen