Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Costau Byw - Cadw'n Ddiogel Rhag Tân

Mae pob Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig ac Iechyd Cyhoeddus Cymru'n ymbil ar bobl i gymryd camau syml i'w diogelu'u hunain rhag tanau damweiniol a gwenwyno carbon monocsid wrth iddynt geisio cadw'n glyd ac arbed ynni'r gaeaf hwn.

Daw'r alwad yn dilyn pryderon gan Y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol (CPTC) bydd yr argyfwng costau byw yn golygu gall pobl droi at ffyrdd amgen o wresogi a goleuo'u cartrefi.

Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig cyfan yn cefnogi ymgyrch Cadw'n Ddiogel Rhag Tân y CPTC i ddarparu cyngor i helpu lleihau risgiau tân yn y cartref. Mae'r ymgyrch yn cynnwys annog pobl i gysylltu â'u Gwasanaeth Tân ac Achub lleol i roi cais am wiriad Diogel ac Iach/Archwiliad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref iddyn nhw eu hunain neu eu hanwyliaid.

Blaenoriaethir y gwiriadau hyn ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn perygl rhag tân yn y cartref ac mae modd iddynt gynnwys ymarferwyr diogelwch yn y cartref yn cysylltu i gyflwyno cyfres o gwestiynau a ddilynir gan ymweliad a all gynnwys gosod larymau tân yn rhad ac am ddim.

Darllenwch y datganiad llawn - Y Gwasanaethau Tân ac Achub Cymreig yn ymbil ar breswylwyr i ‘Gadw'n Ddiogel Rhag Tân' y gaeaf hwn

cost of living

Cadwch yn ddiogel y gaeaf hwn

Lawrlwythwch PDF o'n taflen diogelwch gaeaf ni

diogelwch gaeaf

Costau Byw - Camau i gadw'n ddiogel rhag tân

Lawrlwythwch PDF o daflen costau byw yr NFCC

costau byw

Ydych chi'n derbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf?

Lawrlwythwch PDF o'r daflen taliad tanwydd y gaeaf

taliad tanwydd y gaeaf

I gael gwybodaeth am sut i gael cymorth gyda’ch biliau

ewch i wefan Llywodraeth Cymru

Argymhellion i gadw preswylwyr yn ddiogel rhag tân:

  • Gwiriwch fod unrhyw beiriannau gwresogi mewn cyflwr gweithiol da a heb fod yn destun adalwad cynnyrch wrth wirio gwefan Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau am unrhyw rybuddion neu adalwadau;
  • Sicrhewch bydd eitemau fflamadwy fel celfi a dillad sy'n sychu yn cael eu gosod yn bell o wresogyddion a thanau;
  • Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r tanwydd cywir ar gyfer ffyrnau llosgi coed a thanau agored i leihau'r risg o fygdarthau gwenwynol, tanau simnai a gwenwyno carbon monocsid;
  • Os oes gennych dân agored, sicrhewch fod gennych gard dân o'i gwmpas i helpu atal unrhyw ddeunydd rhag cynnau tân yn eich cartref a chadw plant ac anifeiliaid anwes rhagddo;
  • Ceisiwch osgoi prynu nwyddau trydanol ffug neu ddynwaredol a all achosi tanau trydanol; 
  • Os nad yw'n ymddangos fod eich larwm mwg yn gweithio ac rydych chi wedi gwirio'r batris, trefnwch iddynt gael eu hamnewid neu eu trwsio;
  • Gwiriwch eich llwybrau dianc, a sicrhewch eu bod yn glir rhag annibendod ac nad yw eitemau fel gwresogyddion cludadwy yn eu rhwystro;
  • Os yn bosib, peidiwch hepgor gwasanaethu boeleri a pheiriannau nwy gan beiriannydd Diogelwch Nwy i atal gollyngiadau nwy a gwenwyno carbon monocsid;  
  • Rhaid i landlordiaid drefnu gwiriad diogelwch nwy blynyddol mewn llety rhent;
  • Os ydych yn berchennog tŷ, gwiriwch wefan eich darparwr ynni am wybodaeth am eu Cofrestr Blaenoriaeth Gwasanaeth - os ydych yn gymwys, yn aml maen nhw'n cynnig gwiriad diogelwch nwy blynyddol ynghyd â chymorth arall.

I roi cais am wiriad Diogel ac Iach/Archwiliad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref: 

Galwch 0800 169 1234 neu ymwelwch â 

Helpwch ni i rannu'n negeseuon

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen