Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Atodiad

Atodiad 1

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Adroddiad Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau 2019

Rhagarweiniad

Mae gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru gontract gyda’r Adran Rheoli Cyfleusterau yn Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod prosiectau bioamrywiaeth, a’r contract ar gyfer cynnal a chadw tir ar ei safleoedd, yn cael eu cyflawni.

Mae’r contract cyfredol ar gyfer cynnal a chadw tir yn dod i ben ar 31 Mawrth 2020. Wrth ddatblygu’r fanyleb ar gyfer y contract newydd, rhoddwyd ystyriaeth i gamau i wella bioamrywiaeth.

Rhwng mis Ebrill a Thachwedd bob blwyddyn, mae’r contract cynnal a chadw tir yn cynnwys y drefn ganlynol:

  • torri pob ardal laswelltog bob pythefnos;
  • tocio llwyni, gwrychoedd a choed fel y bo’r angen;
  • rhoi chwynladdwr i reoli chwyn ar ardaloedd palmantog, cyrbiau a gwaelod adeiladau;
  • mae arwynebau solet (meysydd parcio, llwybrau ac ati) yn cael eu clirio o sbwriel, ac mae’r holl wastraff (glaswellt, dail, llwyni marw ac ati) yn cael ei symud o’r safle;
  • rheoli rhywogaethau estron goresgynnol – mae clymog Japan dan reolaeth lem ar dri safle.

Mae llawer o bosibilrwydd o fynd i’r afael ag ystyriaethau bioamrywiaeth yn yr ystad, gan fod 83% o’r safleoedd yn cynnwys ardaloedd o dirlunio meddal (ardaloedd glaswelltog) ac mae 46% o’r safleoedd hynny yn cynnwys llwyni, gwrychoedd neu goed. Dim ond 17% o’r safleoedd sydd heb lystyfiant o gwbl.

Gellir dosbarthu ystad yr Awdurdod yn 3 math o safle:

  • Grŵp 1 – pan fo’r tir yn cynnwys arwyneb solet, ardaloedd glaswelltog a llwyni, gwrychoedd a/neu goed;
  • Grŵp 2 – pan fo’r tir yn cynnwys arwyneb solet ac ardaloedd glaswelltog;
  • Grŵp 3 – pan fo’r tir yn cynnwys arwyneb solet yn unig.

Prosiectau gwella bioamrywiaeth

Hyd yma, mae tri phrosiect gwella bioamrywiaeth wedi cael eu cynnal, gyda phob prosiect yn seiliedig ar ‘gynllun creu cynefin’ i geisio cynyddu gwerth bioamrywiaethol y safle, darparu cysylltedd o fewn a rhwng ecosystemau, a sicrhau bod llai o ddarnio’n digwydd.

Prosiect 1: Pencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub, Parc Busnes Llanelwy.

Mae prosiect bioamrywiaeth yn bodoli yno ers 2007, a hynny ar ffurf gardd glöynnod byw, gwrych a man amwynder gwyrdd ar gyfer y staff. Ar y cyd â Grŵp Cadwraeth Glöynnod Byd Gogledd Cymru, mae ardal laswelltog y tu ôl i’r adeilad wedi cael ei throi’n ardd löynnod byw a phlannwyd gwrych ‘coridor bywyd gwyllt’ sy’n 128m ar hyd llinell y ffens rhwng Pencadlys y Gwasanaeth a’r Ganolfan Gyfathrebu ar y Cyd sydd gerllaw, a hynny er mwyn cysylltu’r ardd â’r cynefinoedd y hwnt i ffiniau’r safle. Gan fod y Parc Busnes yn gartref i’r fadfall ddŵr gribog, daeth ecolegydd draw i gynghori yn ystod y gwaith, rhag ofn.

Prosiect 2: Gorsaf Dân a Heddlu Nefyn, Parc Dwyfor, Nefyn.

Mae Gorsaf Dân a Heddlu Nefyn yn safle adeilad newydd (BREEAM rhagorol). Mae prosiect bioamrywiaeth yn bodoli yno ers 2014, pryd cafodd y safle ei gwblhau.

Cafodd yr orsaf ei hadeiladu ar dir a oedd yn arfer bod yn gaeau glaswelltir garw a oedd wedi bod dan reolaeth amaethyddol ers cryn amser. Yn yr arolwg Cynefinoedd Cyfnod 1, cyn datblygu’r caeau, cawsant eu categoreiddio’n laswelltir wedi’i led-wella, prin ei rywogaethau.

Mae dyluniad a gweithrediad y cynllun rheoli bioamrywiaeth ar gyfer y safle yn ymgorffori ardaloedd o laswelltir blodau gwyllt (ar gyfer pryfed peillio); blychau ystlumod, pryfed ac adar; a noddfeydd torheulo a gaeafgysgu i ymlusgiaid. Mae’r planhigion ar y safle yn cynnwys rhywogaethau planhigion, prysg a choed brodorol.

Prosiect 3: Gorsaf Dân a Heddlu Tywyn, Parc Menter Pendre, Tywyn.

Mae Gorsaf Dân a Heddlu Tywyn yn safle adeilad newydd (BREEAM rhagorol). Mae prosiect bioamrywiaeth yn bodoli yno ers 2015, pryd cafodd y safle ei gwblhau.

Cafodd yr orsaf ei hadeiladu ar dir a gafodd ei gategoreiddio yn yr arolwg Cynefinoedd Cyfnod yn ardal o laswelltiroedd wedi’u lled-wella, prin eu rhywogaethau a glaswelltiroedd amwynder yn cynnwys gwrych gyda choed ar y ffin deheuol nad oedd yn cysylltu â’r coridorau bywyd gwyllt ar hyd y rheilffordd neu ffiniau’r caeau yn y tirwedd ehangach.

Mae dyluniad a gweithrediad y cynllun rheoli bioamrywiaeth ar gyfer y safle yn cynnwys poncen ar lethr bach, wedi’i greu drwy glirio haen uchaf y pridd ar adeg gwaith adeiladu ar y safle er mwyn creu arwyneb ychwanegol ar gyfer plannu. Mae perimedr terfyn y safle wedi’i blannu â rhywogaethau planhigion, prysg a choed brodorol, ac mae’n cynnwys ardaloedd o laswelltir blodau gwyllt ac ardal pyllau gwlyptir. Mae’r ardaloedd sydd wedi’u plannu yn cysylltu â gwrychoedd a choed a oedd yno eisoes. Gosodwyd blychau adar ar yr adeilad ac yn y coed.

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau

Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn disgrifio cyfraniad yr Awdurdod at amcanion Cynllun Adfer Natur Cymru, mewn perthynas â rheoli tir a chynnal a chadw a gwella bioamrywiaeth ar safleoedd yr Awdurdod.

NRAP Amcan 1: Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth i wreiddio bioamrywiaeth ymhob rhan o’r gwaith o wneud penderfyniadau.

I ddechrau, fe wnaeth Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ymrwymo i ymdrin â bioamrywiaeth ar ei ystad drwy’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (SDAP) sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2020. Mae’r Cynllun yn cael ei weithredu a’i reoli drwy gontract gyda’r Adran Rheoli Cyfleusterau yn Heddlu Gogledd Cymru. Mae data, gwybodaeth ac adroddiadau am y meysydd pynciol dan y Cynllun SDAP yn cael eu darparu i’r Awdurdod Tân ac Achub ac uwch reolwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub fel y bo’r angen neu fel y gwneir cais amdanynt.

Mae codi ymwybyddiaeth am faterion bioamrywiaeth wedi bod ar safleoedd prosiectau yn bennaf. Er enghraifft, mae prosiect bioamrywiaeth y Pencadlys Tân ac Achub wedi darparu gwybodaeth i’r staff am y prosiect a’r rhesymau pam roedd yn cael ei wneud. Ymgysylltwyd yn dda â’r cynllun, mae’r staff yn tynnu ffotograffau o rywogaethau (glöynnod byw a phryfed eraill) ac maent yn darparu adborth am unrhyw broblemau i’r Adran Rheoli Cyfleusterau.

NRAP Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd pwysig iawn a gwella’r dulliau o’u rheoli.

Nid oes gan y Gwasanaeth unrhyw safleoedd gwarchodedig yn ei ystad. Ond mae’r Pencadlys Tân ac Achub ar Barc Busnes Llanelwy, sy’n gartrefi i’r fadfall ddŵr gribog, felly bydd unrhyw waith sy’n tarfu ar dir yn rhoi ystyriaeth i ofynion y gyfraith mewn perthynas â’r madfallod dŵr.

NRAP Amcan 3: Cynyddu cadernid ein hamgylchedd naturiol drwy adfer cynefinoedd sydd wedi dirywio, a chreu cynefinoedd.

Bydd yr amcan hwn yn cael ei gyflawni drwy weithredu’r contract newydd ar gyfer Cynnal Tir a Gwella Bioamrywiaeth, a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2020. Mae manyleb y contract newydd wrthi’n cael ei ddatblygu. Bydd pob safle’n cael ei asesu o ran ei ofynion cynnal a chadw tir a’i botensial ar gyfer creu cynefinoedd, a bydd trefn benodol yn cael ei lunio ar gyfer pob safle, gan gynnwys cynlluniau o’r safleoedd, a mesuriadau o ardaloedd â llystyfiant. Bydd gofynion penodol ar gyfer safleoedd, ond dyma’r brif bethau a fydd yn cael eu sefydlu o 1 Ebrill 2020 ymlaen:

Ardaloedd Glaswelltog: Oni bai fod angen cynnal a cadw’r ardal laswelltog fel nodwedd ffurfiol neu os yw’n rhy fach, bydd y drefn dorri yn newid o bob pythefnos rhwng Ebrill ac Awst i dorri unwaith yn y gwanwyn ac unwaith yn yr hydref; bydd hyn yn caniatáu i’r glaswellt dyfu rhwng Ebrill ac Awst bob blwyddyn er mwyn cynyddu’r cynefin sydd ar gael i bryfed peillio a rhywogaethau eraill.

Pan fo ardaloedd glaswelltog yn cael eu gadael i dyfu rhwng Ebrill ac Awst, bydd stribyn ar hyd ymyl y glaswellt wrth arwyneb solet yn cael ei dorri’n rheolaidd, er mwyn nodi’r ardal bioamrywiaeth, dangos bod yr ardal yn cael ei rheoli, ac er mwyn gallu ystyried iechyd a diogelwch ar y gyfer y staff sy’n defnyddio’r safle. Caiff asesiad ei wneud o’r safle ym mis Gorffennaf 2020 er mwyn penderfynu pa mor lwyddiannus fu’r drefn dyfu ym Mlwyddyn 1 a pha addasiadau fydd eu hangen ar gyfer Blwyddyn 2. O ran ardaloedd o laswellt sy’n rhy fach i’w gadael i dyfu, caiff y rhain eu hasesu o ran cynefinoedd eraill ‘sy’n gyfeillgar i bryfed peillio’, megis gwelyau blodau neu ddysglau blodau.

Llwyni a Choed: Mae’r holl goed yn cael eu cofnodi mewn rhestr, sy’n nodi’r lleoliad, unrhyw orchmynion gwarchod coed, rhywogaeth, amcangyfrif o’r oedran, cyflwr (er mwyn penderfynu ynghylch iechyd y goeden ac er mwyn cynnal asesiadau o’r risg i’r goeden ei hun o glefydau fel clefyd coed ynn ac i’r eiddo neu i bobl oherwydd e.e. canghennau marw a allai syrthio).

Pan fo angen symud coed, bydd rhywogaethau brodorol addas yn cael eu rhoi yn eu lle. Pan fo coed wedi cael eu symud yn y gorffennol a bylchau’n bodoli yn y cynefin, bydd y bylchau’n cael eu cau drwy blannu coed newydd os yw hyn yn bosibl. Bydd gwrychoedd a llwyni’n cael eu tocio ar yr adeg briodol o’r blwyddyn, a rhoddir ystyriaeth i rywogaethau a allai fod yn eu defnyddio, megis adar yn nythu.

Pan fo angen adnewyddu neu atgyweirio llwyni neu wrychoedd, defnyddir rhywogaethau sy’n blodeuo (megis y ddraenen wen) fel porthiant i bryfed peillio. Gosodir pentyrrau o foncyffion, a bylchau ystlumod, adar a pryfed ar safleoedd lle mae hynny’n bosibl.

Codi Ymwybyddiaeth o Fioamrywiaeth: Bydd staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael gwybod am y newid yn y drefn cynnal a chadw tir a’r rhesymau dros hynny. Gosodir byrddau gwybodaeth cyhoeddus ar safleoedd lle mae’r blaen yn destun prosiect.

NRAP Amcan 4: Mynd i’r afael â phwysau allweddol ar rywogaethau a chynefinoedd.

Mae clymog Japan yn cael ei reoli ar dri safle, ac mae ei statws yn cael ei fonitro’n barhaus .

Yng ngwanwyn 2020, gwneir asesiad o’r risg o glefyd coed ynn i goed ynn ar safleoedd yr Awdurdod pan fydd y coed yn deilio eto.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth yn ei restr o goed, bydd y Gwasanaeth yn cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cyfrifo beth yw gwerth y coed i ddal a storio carbon. Penderfynir beth yw gwerth y dadgarboneiddio i ôl troed carbon y Gwasanaeth o ganlyniad i ddal a storio carbon gan goed yn yr ystad.

Os bydd man gwyrdd yn cael ei greu ar gyfer staff, ymwelwyr neu grwpiau cymunedol, bydd y seddi’n dod o ffynonellau cynaliadwy a chymdeithasol.

Defnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr; mae’r Gwasanaeth eisoes yn dweud wrth gontractwyr i sicrhau eu bod yn defnyddio’r sylweddau hyn yn gymesur, nad ydynt yn cael eu rhoi ar ddail gwlyb neu pryd mae disgwyl glaw, bod sbwriel yn cael ei symud cyn chwistrellu a bod eu cyfarpar yn cynnwys giard i atal sylweddau rhag chwythu.

 NRAP Amcan 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n dulliau monitro:

Crëir rhestr bioamrywiaeth o ystad yr Awdurdod, bydd yn cynnwys cynlluniau o safleoedd, mesuriadau o ardaloedd glaswelltog a chynefinoedd ar y safleoedd hynny.

Blwyddyn ariannol 2019/20 fydd y flwyddyn sylfaen ar gyfer y rhestr, sef pryd bydd safleoedd wedi dilyn y drefn bresennol o gynnal a chadw tir.

Bydd y Rhestr yn cael ei diweddaru bob blwyddyn, er mwyn adlewyrchu prosiectau sy’n cael eu cynnal ar y safle a’r gwaith pellach fydd ei angen. Bydd pob Rhestr, data a gwybodaeth ar gael i’r Cofnod (sef Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol Gogledd Cymru), Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, Swyddogion Bioamrywiaeth lleol, sefydliadau sy’n bartneriaid i ni yn y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb.

NRAP Amcan 6: Sefydlu fframwaith llywodraethu a chefnogi ar gyfer cyflawni:

Mae’r gwaith o gyflawni’r camau bioamrywiaeth o ddydd i ddydd ar safleoedd yr Awdurdod yn cael ei weinyddu drwy’r Adran Amgylcheddol a Chadwraeth Ynni yn yr Adran Rheoli Cyfleusterau yn Heddlu Gogledd Cymru.

Bydd y Gwasanaeth yn ceisio cael cymorth gan aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydliadau partneriaethol a grwpiau natur lleol ar gyfer y gwaith o ganfod rhywogaethau ar safleoedd. Er enghraifft, rhoddir ystyriaeth i gynnal BioBlitz ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Natur, drwy agor tir yr orsaf am ddiwrnod er mwyn i aelodau o’r cyhoedd ac arbenigwyr ecolegol ddod i helpu i asesu a chofnodi rhywogaethau a welir ar y safle; gan roi’r canlyniadau yng ngwasanaeth Cofnod.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen