Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rheoli Risgiau Strategol

PWRPAS YR ADRODDIAD

Rhoi crynodeb i’r aelodau o gynnwys cofrestr risgiau strategol yr Awdurdod yn unol â’r polisi Rheoli Risgiau Strategol.

CRYNODEB GWEITHREDOL

Drwy adolygu risgiau’n rheolaidd, gwelir y gallai rhai ohonynt atal yr Awdurdod rhag sicrhau ei ganlyniadau arfaethedig a/neu gyflawni ei swyddogaethau craidd. O’r amrediad llawn o risgiau, mae’r rhai sy’n cael eu hystyried i fod y rhai uchaf yn ymwneud â lefel cadernid yr Awdurdod tuag at naill ai ymosodiad ar ei systemau cyfrifiadurol neu golli’n sydyn aelod o staff sydd â gwybodaeth arbenigol a/neu brofiad o fusnes yr Awdurdod. Hyd yn oed drwy gynllunio gwrth-fesurau, mae’r rhain yn debygol o barhau i fod ar lefel risg uchel.

ARGYMHELLION

Bod yr Aelodau’n nodi’r risgiau strategol hysbys sy’n wynebu’r Awdurdod.

CEFNDIR

Mae’r Polisi Rheoli Risgiau Strategol a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod yn diffinio risg strategol fel “digwyddiad a fyddai’n effeithio ar y gallu i wireddu canlyniadau y mae’r Awdurdod wedi’u cynllunio a/neu gyflawni ei swyddogaethau craidd”.

Mae Cofrestr Risgiau Strategol yr Awdurdod yn rhestru risgiau hysbys a allai atal yr Awdurdod rhag cyflawni ei ganlyniadau arfaethedig a/neu gyflawni ei swyddogaethau craidd. Mae cofnodion y gofrestr yn cael sgoriau risg sy’n cael eu hailwerthuso’n rheolaidd gan y swyddogion i adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol a’r effaith a ragwelir o ganlyniad i gynllunio gwrth-fesurau.

Dan y polisi hwn, mae’r Panel Gweithredol yn cael adroddiad cryno ar y risgiau strategol, a hynny o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Rhwng yr adegau hynny mae Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod yn gallu gweld manylion llawn y gofrestr gyda’r swyddogion.

Mae’r Gofrestr Risgiau Strategol yn cofnodi’r lefelau risg presennol a’r lefelau risg ar gyfer y dyfodol (yn seiliedig ar ragdybiaeth y bydd y gwrth-fesurau a gynlluniwyd wedi cael yr effaith a obeithiwyd).

Mae’r lefelau risg yn seiliedig ar werthuso’r tebygolrwydd y gallai rhywbeth ddigwydd a beth fyddai’r canlyniad petai hynny’n digwydd. Darperir disgrifiadau yn Atodiad 1 er gwybodaeth.

GWYBODAETH

Mae’r swyddogion yn parhau i adolygu a diweddaru’r gofrestr risgiau, gan ychwanegu, dileu ac ail-sgorio risgiau fel y bo’n briodol. Rhoddir crynodeb o gofnodion presennol y gofrestr yn Atodiad 2.

GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant  Mae cynnal y gofrestr a gweithredu i reoli risg yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd amcanion llesiant yr Awdurdod yn cael eu cyflawni.
Y Gyllideb Mae cynnal y gofrestr yn gymorth i flaenoriaethu penderfyniadau ynglŷn â gwariant a fyddai’n lleihau lefelau risg.
Cyfreithiol Mae cynnal y gofrestr yn gymorth i sicrhau bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â deddfau sy’n diffinio ei swyddogaethau a’r ffordd y mae’n gweithredu.
Staffio Ni canfuwyd unrhyw oblygiadau penodol.
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg Ni canfuwyd unrhyw oblygiadau penodol.
Risgiau Gallai rhyddhau’r gofrestr drwy ddamwain olygu bod yr Awdurdod yn agored i niwed.

Atodiadau

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen