Datganiad Drafft o Gyfrifon 2020/21
PWRPAS YR ADRODDIAD
Cyflwyno’r drafft o’r Datganiad Drafft o Gyfrifon 2020/21 (y Cyfrifon) i’r Aelodau, a gofyn am ddirprwyo’r gwaith o gymeradwyo’r fersiwn archwiliedig terfynol i’r Panel Gweithredol yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf.
CRYNODEB GWEITHREDOL
Yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2019, fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb refeniw o £35.9m. Y sefyllfa alldro terfynol yw £0.06m o danwariant.
Fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo cyllideb gyfalaf o £4.1m ym mis Rhagfyr 2019. Cafodd hon ei hadolygu a’i diwygio i £0.1m gan yr Awdurdod ar 9 Tachwedd 2020. Fodd bynnag, cafwyd rhagor o oedi oherwydd Covid-19 a chafodd y cynllun cyfalaf ei ohirio tan 2021/22.
Mae’r Awdurdod yn clustnodi cronfeydd er mwyn cael arian wrth gefn ar gyfer digwyddiadau neu risgiau yn y dyfodol. Ar 31 Mawrth 2021, roedd cyfanswm o £3.46m ar gael mewn cronfeydd a glustnodwyd.
Ni chafodd unrhyw ddyledion drwg eu dileu yn 2020/21.
ARGYMHELLION
Gofynnir i’r Aelodau:
(i) nodi sefyllfaoedd yr alldro refeniw a chyfalaf drafft fel sydd yn Natganiad o Gyfrifon 2020/21;
(ii) dirprwyo’r gwaith o gymeradwyo Datganiad archwiliedig terfynol o Gyfrifon 2020/2021 i’r Panel Gweithredol yn ei gyfarfod ar 26 Gorffennaf 2021;
(iii) cymeradwyo’r cronfeydd a glustnodwyd; a
(iv) nodi na chafodd unrhyw ddyledion drwg eu dileu yn 2020/21.
SYLWADAU’R PANEL GWEITHREDOL/PWYLLGOR ARCHWILIO
Nid yw’r aelodau wedi ystyried yr adroddiad o’r blaen.
CEFNDIR
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa’r alldro gwariant refeniw a chyfalaf drafft am flwyddyn ariannol 2020/21. Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb hefyd o’r eitemau allweddol ar y fantolen, gan gynnwys cynnal cronfeydd a glustnodwyd.
Nodir yn yr adroddiad pa grantiau a ddyfarnwyd yn ystod y flwyddyn.
GWYBODAETH
CYLLIDEB REFENIW
Mae’r tabl isod yn nodi sefyllfa’r alldro refeniw terfynol am flwyddyn ariannol 2020/21. Mae’n nodi £0.063m o danwariant o’i gymharu â’r gyllideb o £35.942m, ac mae’n cynnwys y cyfraniadau i’r cronfeydd a glustnodwyd.
|
Cyllideb 2020/21 £000 |
Alldro 2020/21 £000 |
Amrywiad 2020/21 £000 |
Costau Gweithwyr |
27,069 |
25,198 |
(1,871) |
Safleoedd |
2,475 |
2,641 |
166 |
Cludiant |
1,004 |
924 |
(80) |
Cyflenwadau a thaliadau trydydd partïon |
5,145 |
5,656 |
511 |
Incwm |
-2,587 |
-2,666 |
(79) |
Taliadau Llog a Chyllid Cyfalaf |
2,836 |
2,484 |
(352) |
Trosglwyddiadau i/o’r Cronfeydd Wrth Gefn |
0 |
1,642 |
1,642 |
Cyfanswm y Refeniw |
35,942 |
35,879 |
(63) |
Costau Gweithwyr
Ym mlwyddyn ariannol 2020/21, £27.069m oedd y gyllideb ar gyfer gwariant ar weithwyr, sef 71% o’r gwariant. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, cafwyd oedi wrth recriwtio ac mae tanwariant yn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn. Ailddechreuwyd recriwtio, a chaiff hyn ei fonitro’n agos yn ystod 2021/22.
Safleoedd
£2.475m oedd y gyllideb ar gyfer safleoedd, a’r alldro oedd £0.166m o orwariant. Cafwyd £0.021m o arbedion ar gyfleustodau, o gymharu â chostau’r llynedd. Mae’r gorwariant hwn yn cynnwys tâl ar gyfer ardrethi busnes yn deillio o ddiwygio prisiad wedi’i ôl-ddyddio a chostau angenrheidiol i sicrhau bod ein hadeiladau’n cydymffurfio’n llwyr â chanllawiau’r llywodraeth ynglŷn â phandemig Covid-19.
Cafwyd oedi ar nifer sylweddol o fân waith oherwydd Covid-19, felly mae £0.340m wedi’i gynnwys yn y gronfa a glustnodwyd er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i gwblhau’r gwaith.
Cludiant
£0.924m oedd y gwariant ar gostau’n gysylltiedig â chludiant, ac mae hyn £0.080m yn is na’r gyllideb. Mae’r tanwariant hwn yn cynnwys gostyngiad mewn costau tanwydd (£0.131m) ar gyfer cerbydau nad ydynt yn rhai brys ac sy’n deillio o bandemig Covid-19. Roedd costau uwch ar gyfer atgyweirio yn gwrthbwyso hyn.
Cyflenwadau a Thaliadau Trydydd Partïon
£5.656m oedd y gwariant ar gyflenwadau, sef £0.511m o orwariant o gymharu â’r gyllideb. Cafwyd buddsoddiad sylweddol mewn trwyddedau ac offer cyfrifiadurol i sicrhau bod staff yn gallu gweithio o gartref, a dechreuwyd ar welliannau mewn systemau TGCh er mwyn cefnogi gweithlu mwy ystwyth. Clustnodwyd £0.502m mewn cronfa i sicrhau bod cyllid ar gael i barhau â’r gwaith yma.
Cafwyd gwariant uwch hefyd ar gyfarpar amddiffyn personol o ganlyniad i bandemig Covid-19.
Cyllido Cyfalaf
£2.836m oedd y gyllideb ar gyfer cyllido cyfalaf. Mae’r costau cyllido cyfalaf yn cynnwys y ffi ar y refeniw am ddibrisio a hefyd cost benthyca. Roedd y £0.352m o danwariant yn adlewyrchu gostyngiad yn y cyfraddau llog, yn ogystal â gostyngiad yn yr angen i fenthyca.
Incwm
£0.378m oedd y gyllideb incwm. £0.607m oedd yr incwm (ac eithrio grantiau). Mae’r cynnydd yn yr incwm wedi digwydd oherwydd hawliadau a gyflwynwyd i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am adfer costau staff, ynghyd ag arian a hawliwyd o Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru ar gyfer Covid-19 yn ystod 2020/21.
Arian Grantiau Refeniw
Dyma ddadansoddiad o’r arian grant a ddaeth i law yn 2020/21.
Dyraniad |
Gwirioneddol £000 |
|
Lleihau Llosgi Bwriadol |
157 |
157 |
Archwiliadau Diogel ac Iach |
223 |
136 |
Y Ffenics |
148 |
162 |
Cymru Gydnerth |
154 |
143 |
Cyfraniadau Pensiwn y Diffoddwyr Tân |
1,111 |
1,103 |
Firelink |
416 |
416 |
Hyfforddiant Seiber |
0 |
3 |
Gofyn a Gweithredu |
0 |
1 |
Cyfanswm yr Arian Grant |
2,209 |
2,121 |
Er bod cyfyngiadau Covid-10 wedi effeithio ar nifer o weithgareddau sy’n cael eu hariannu drwy grantiau, cymerwyd camau sylweddol i ddatblygu gweithgareddau o bell ac i addasu’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu.
RHAGLEN GYFALAF
Fe wnaeth yr Awdurdod gymeradwyo rhaglen gyfalaf a oedd yn werth £4.1m. Cafodd y rhaglen gyfalaf ei hadolygu yn ystod y flwyddyn i roi ystyriaeth i’r cyfyngiadau oherwydd pandemig Covid-19. Er y rhagwelid i ddechrau y gellid bod wedi cwblhau ambell ddarn o waith yn ail hanner y flwyddyn, nid oedd hyn yn bosibl oherwydd rhagor o fesurau cloi. Felly, ni wnaethpwyd unrhyw wariant cyfalaf yn ystod 2020/21.
Mae prosiectau sy’n gysylltiedig â gwaith adeiladu a pheiriannau tân a gafodd eu gohirio oherwydd pandemig Covid-19 wedi cael eu haildrefnu ar gyfer 2021/22.
Cafwyd oedi ar rai cynlluniau TGCh gan fod gwaith y tîm TGCh wedi cael ei ail-flaenoriaethu er mwyn rheoli’r newid i weithio o bell. Mae rhai cynlluniau eraill wrthi’n cael eu hadolygu, a rhagwelir y bydd pob cynllun a ohiriwyd yn dechrau yn 2021/22.
Y FANTOLEN
Mae’r Fantolen yn darparu rhagor o wybodaeth am sefyllfa ariannol hirdymor yr Awdurdod, ac mae’n cynnwys asedau a rhwymedigaethau.
Asedau Sefydlog a Benthyciadau
Asedau sefydlog yw eitemau sy’n costio mwy na £5,000 ac y mae disgwyl iddynt gael eu defnyddio dros gyfnod mwy na 12 mis. Mae asedau sefydlog yr Awdurdod yn cynnwys tir ac adeiladau, cerbydau, cyfarpar gweithredol ac offer a chostau meddalwedd TGCh. Amcangyfrifir mai £40.6m yw’r gwerth ar 31 Mawrth 2021 (2019/20: £45.9m).
Cafodd yr holl dir ac adeiladau eu hailbrisio yn 2020/21, ac arweiniodd hyn at brisiad is, sef £2.21m. Tir ac adeiladau’r Awdurdod yw 78% o’r holl asedau, a’r gwerth llyfr net yw £31.6m ar 31 Mawrth 2021.
Mae gan yr Awdurdod hawl i gael trefniadau benthyca i brynu asedau sefydlog. Ar 31 Mawrth 2021, £26.2m oedd gwerth y benthyciadau (2019/20: £30.9m). Mae’r costau cyllido cyfalaf yn y sefyllfa refeniw yn cynnwys £0.380 yn gysylltiedig â thaliadau llog ar fenthyciadau.
Asedau Cyfredol a Rhwymedigaethau Cyfredol
Rhaid i’r Awdurdod gynnal adnoddau digonol i sicrhau ei fod yn gallu cwrdd â’i rwymedigaethau. Mae’n gwneud hyn drwy reoli arian parod ochr yn ochr â balansau dyledwyr a chredydwyr. Ar ddyddiad y fantolen, roedd yr Awdurdod wedi cofnodi balans o £6.3m ar gyfer arian parod a dyledwyr. Mae hyn yn cael ei wrthbwyso gan £5.5m o symiau sy’n ddyledus gan yr Awdurdod i gredydwyr.
Rhwymedigaethau Pensiwn
Rhaid i’r Awdurdod roi cyfrif am y rhwymedigaethau a amcangyfrifir mewn perthynas â’i gynlluniau pensiwn. Mae gan yr Awdurdod ddau gynllun, sef Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae gwerth y rhwymedigaethau ar gyfer y dyfodol yn cael ei gyfrifo gan yr actiwari ar gyfer pob cynllun, ac amcangyfrif ar 31 Mawrth 2021 y bydd yn £337.3m (2017/18: £312.1m). Mae’r prisiad hwn yn cynnwys yr asesiad actiwaraidd o gostau heriau cyfreithiol cenedlaethol, gan gynnwys dyfarniad McCloud sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail oedran yng nghynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus.
Cronfeydd Defnyddiadwy
Roedd cronfeydd yr Awdurdod ar 31 Mawrth 2021 yn £4.91m. Mae hyn yn cynnwys £3.46m o gronfeydd a glustnodwyd, a £1.45m o gronfeydd cyffredinol.
Cronfa a glustnodwyd yw cronfa sy’n cael ei chreu ar gyfer eitemau penodol sy’n hysbys ar ddyddiad y fantolen ac a allai greu rhwymedigaeth yn y dyfodol. Mae manylion cronfeydd a glustnodwyd gan yr Awdurdod i’w gweld yn y tabl isod.
Cronfa |
Gwerth ar 1 Ebrill 2020 £000 |
Trosglwydd-adau £000 |
Gwerth ar 31 Mawrth 2021 £000 |
Pwrpas y Gronfa |
Cronfa bensiwn |
85 |
0 |
85 |
Dyma gronfa hirdymor a sefydlwyd i liniaru effaith costau annisgwyl yn gysylltiedig â’r cynlluniau pensiwn yn ystod y flwyddyn. |
Cynllun Radio |
300 |
200 |
500 |
Mae’r Awdurdod yn cael arian grant i gefnogi’r rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth brys oherwydd mae rhwydwaith newydd wrthi’n cael ei gaffael. Sefydlwyd y gronfa i liniaru’r risg y byddai costau ychwanegol yn ystod y cyfnod caffael. |
Lleihau Grant Diogelwch Tân |
195 |
0 |
195 |
Mae’r Awdurdod yn gwneud gwariant refeniw sy’n £1.0m ac yn cael ei ariannu drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru. Cytunir ar y rhain bob blwyddyn, ac mae’r gronfa ar gael i fynd i’r afael â chostau byrdymor sy’n digwydd oherwydd gostyngiadau yn yr arian grant. |
Cronfa Llog |
100 |
0 |
100 |
Sefydlwyd y gronfa hon i liniaru effaith amrywiadau yn y cyfraddau llog. |
Atgyweirio Hydrantau Tân |
90 |
0 |
90 |
I dalu am waith cynnal a chadw sydd wedi cronni. |
Hyfforddiant |
100 |
0 |
100 |
I weithredu gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â hyfforddi gyrwyr cerbydau brys ac argymhellion a ddisgwylir yn y dyfodol yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus i Grenfell. |
Cronfa Gyfreithiol |
200 |
0 |
200 |
Swm a neilltuwyd i ddarparu ar gyfer rhwymedigaethau cyfreithiol yn y dyfodol. |
Gwelliannau i’r Gwasanaeth |
350 |
450 |
800 |
I ariannu costau ar gyfer darparu newid trawsffurfiannol a gwelliannau i’r gwasanaeth. |
Gwelliannau i Gyfleusterau |
150 |
340 |
490 |
I sicrhau bod adeiladau’n cwrdd â’r safonau gofynnol ac yn gwella effeithlonrwydd ynni. |
Stoc |
250 |
0 |
250 |
I ariannu rhan o’r costau o gael cit amddiffyn personol newydd. |
Digwyddiad-au Mawr |
0 |
150 |
150 |
2020/21: ariannu costau ychwanegol ar gyfer digwyddiadau mawr yn y dyfodol. |
Gwelliannau i Systemau |
0 |
502 |
502 |
2020/21: Arweiniodd Covid-19 at oedi mewn gwaith i ddiweddaru systemau TG, a sefydlwyd cronfeydd wrth gefn i sicrhau bod cyllid ar gael i’w orffen. |
Cyfanswm |
1,820 |
1,642 |
3,462 |
Cynnydd mewn Cronfeydd Wrth Gefn |
DYLEDION DRWG
Cafodd adolygiad o’r balansau sy’n ddyledus i’r Awdurdod ei gynnal ar ddiwedd y flwyddyn. Ystyrir bod modd adfer pob swm, ac nid oedd angen dileu unrhyw ddyledion drwg yn ystod 2020/21.
GOBLYGIADAU
Amcanion Llesiant |
Mae cysylltiad rhwng yr adroddiad hwn ag amcanion llesiant hirdymor ATAGC. Mae arian ar gyfer y Gwasanaeth yn rhywbeth sydd o fudd i gymunedau Gogledd Cymru, ac mae’n sicrhau bod digon o fuddsoddiad mewn seilwaith i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu darparu ymatebion brys a gwaith ataliol ymhell i’r dyfodol. |
Cyllideb |
Mae’r gyllideb yn cael ei gosod bob blwyddyn yn unol â’r gwasanaethau arfaethedig, sy’n cynnwys ymateb brys a gwaith ataliol. |
Cyfreithiol |
Mae gofyn cyfreithiol i’r Awdurdod lunio’r Datganiad o Gyfrifon yn unol â’r safonau a ragnodwyd. |
Staffio |
Dim |
Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg |
Dim |
Risgiau |
Mae incwm a gwariant yn cael eu monitro’n agos i sicrhau bod unrhyw achos o wyro o’r gyllideb a gymeradwywyd yn cael ei nodi’n gywir a’i adrodd i’r Aelodau. |