Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Disgyblion Yng Nghonwy Yn Llewyrchu Yng Nghystadleuaeth Lliwio’r Gwasanaeth Tân

Postiwyd

Yn ddiweddar fe aeth Swyddogion Tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i Ysgol T Gwynn Jones, Hen Golwyn ac Ysgol Glan Morfa, Abergele i gyflwyno gwobrau i'r rheiny a ddaeth yn ail a thrydydd yn y gystadleuaeth iliwio poster tân gwyllt.

Thomas Dantith o Ysgol T Gwynn Jones ddaeth yn ail ac Osian James Morgan o Ysgol Glan Morfa ddaeth yn gydradd drydydd.

Roedd dros 300 o blant o bob cwr o'r Gogledd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Roedd gofyn i'r plant liwio poster tân gwyllt, a gynhyrchiwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a oedd yn cynnwys y neges 'Peidiwch byth â chwarae â thân'.

Cyflwynwyd talebau Argos i Thomas ac Osian a chafwyd sgwrs am ddiogelwch tân yn ystod gwasanaeth yr ysgol.

Tom Pye o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a gyflwynodd y talebau, ac meddai: "Rydym yn falch bod Ysgol T Gwynn Jones ac Ysgol Glan Morfa yn ogystal  ag ysgolion eraill ar draws y rhanbarth wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.  Pwrpas y gystadleuaeth yw addysgu plant am ddiogelwch tân mewn ffordd hwyliog  - rydym yn mawr obeithio y bydd y plant yn cofio'r neges ddiogelwch yn y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen