Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dynes o Ddinbych yn anadlu mwg wedi tân mewn peiriant sychu dillad

Postiwyd

 

Bu'n rhaid i ddynes o Ddinbych gael triniaeth yn yr ysbyty wedi iddi anadlu mwg ar ôl i beiriant sychu dillad fynd ar dân yn ei chartref yn Ninbych neithiwr.

 

Galwyd diffoddwyr tân o Ddinbych a Llanelwy i'r eiddo yng Nghysgod Y Graig, Dinbych am 17.13 o'r gloch neithiwr, Dydd Sul Hydref 21 a ddefnyddiodd bibell ddŵr a dau set o offer anadlu i ddiffodd y tân yn y gegin.  

 

Mae'n debyg bod y ddynes wedi  mynd yn ôl i mewn i'r eiddo i geisio brwydro yn erbyn y tân, ac roedd yn rhaid ei chludo i'r ysbyty am driniaeth oherwydd ei bod wedi anadlu mwg.

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam yn y peiriant sychu dillad.

 

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Sir Ddinbych a Chonwy:

 

"Mae'n bwysig eich bod yn mynd allan o'r eiddo cyn gynted â phosib a pheidiwch byth â mynd yn ôl i mewn i adeilad peryglus. Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar sydd yn galluogi pawb i adael yr adeilad cyn gynted â phosib.  Mae mwg yn wenwynig iawn a gall anadlu dim ond ychydig o fwg eich lladd - peidiwch â  mynd yn ôl i mewn i'r adeilad i nôl eich eiddo neu achub anifeiliaid anwes.

 

"Rydym yn gofyn i breswylwyr ddilyn y canllawiau isod er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn defnyddio eu peiriannau sychu dillad yn ddiogel. Mae'r rhain yn cynnwys:

- Peidio byth â gorlwytho'ch peiriant golchi

- Peidio byth â gadael y peiriant ymlaen os ydych yn mynd i'r gwely neu'n gadael y tŷ

- Peidio â gadael y peiriant ymlaen am amser hir

- Glanhau'r ffilteri'n rheolaidd

 

"Drwy gadw at y rhagofalon uchod gallwch leihau'r perygl o dân mewn peiriannau sychu dillad.  Fodd bynnag, dylech hefyd wneud yn siŵr bod gennych larwm mwg gweithredol a'ch bod yn cynnal a chadw'r larwm yn rheolaidd gan eu bod yn rhoi rhybudd cynnar os bydd tân.

 

"Fel rhan o'n archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim, rydym yn cynnig cyngor diogelwch tân sylfaenol ar sut i gadw mor ddiogel â phosibl rhag tân yn y cartref a gallwn osod larymau mwg newydd ar bob llawr o'ch cartref.  Gall y cyngor a'r offer yma olygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw, ac rydym yn annog trigolion yng Ngogledd Cymru i gymryd mantais o'r gwasanaeth hwn sydd yn rhad ac am ddim.

 

"I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi HFSC ar ddechrau'r neges."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen