Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn ddiogel ar noson tân gwyllt

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl ifanc beidio â chwarae gyda thân gwyllt neu gynnau coelcerthi yn ystod y gwyliau hanner tymor rhag ofn iddynt gael eu hanafu neu ladd

Gydag wythnos i fynd tan noson tân gwyllt mae Gwasanaeth Tân ac Achub yn erfyn ar y cyhoedd  i gymryd pwyll gyda thân gwyllt a mynychu nosweithiau tân gwyllt cymunedol yn lle cynnau tân gwyllt adref.  

DywedoddGareth Griffiths, uwch Swyddog Diogelwch Tân: " Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae diogelwch yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom.  Nid oes modd gorbwysleisio mai'r ffordd orau i ostwng nifer yr anafiadau ar adeg noson tân gwyllt ydi trwy fynd i arddangosfa gymunedol wedi ei threfnu.  Dyma'r arddangosfeydd diogelaf, sydd gan y cyfleusterau gorau a lle cewch y gwerth gorau am eich arian. Ar adeg Noson Tân Gwyllt, gwelir pobl oedrannus a pherchnogion anifeiliaid anwes yn pryderu fwy, felly trwy fynd i arddangosfa gymunedol, mae modd lleihau'r pryder hwn.

"Os oes raid i chi eich hun ddefnyddio tân gwyllt, dilynwch y rheolau tân gwyllt."

Y Rheolau Tân Gwyllt

- Prynwch dân gwyllt sydd â BS 7114 arnynt yn unig.

- Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi'n cynnau tân gwyllt.

- Cadwch y tân gwyllt mewn bocs â chaead arno.

- Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar bob tân gwyllt.

- Taniwch nhw hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio tapr.

- Sefwch yn ddigon pell yn ôl.

- Peidiwch byth â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi ei gynnau.  Hyd yn oed os nad ydi o wedi tanio, mae'n dal yn bosib iddo ffrwydro.

- Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced, na'i daflu.

- Dylid goruchwylio plant os ydynt yn agos at dân gwyllt.

- Taniwch ffyn gwreichion un ar y tro, a gwisgwch fenig.

- Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan bum mlwydd oed.

- Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ.

 

"Os byddwch chi'n trefnu noson tân gwyllt, rhowch wybod i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru trwy ffonio 01745 535805."

 

Nosweithiau Tân Gwyllt Cymunedol yn eich ardal chi:

Cerrigyrudion - Ysgol Cerrigydrudion   6ed Tachwedd  7pm.

Bwcle - Comin Bwcle  5ed Tachwedd  6.15pm

Glannau Dyfrdwy - Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy 5ed Tachwedd 7.30pm

Bae Colwyn - Parc Eirias 5ed Tachwedd

Y Rhyl - Y Cae Sioe,  Rhuddlan 5ed Tachwedd

Biwmares - Ger pier Biwmares 3ydd Tachwedd 6.30pm

Talysarn- 5ed Tachwedd

Wrecsam- Sefydliad Aberoer , Minera 3ydd Tachwedd 6.30pm

Dinbych- Castell Dinbych 5ed Tachwedd 7pm

Llanfairfechan -2il Tachwedd 7pm

Rhuthun - Clwb Tennis, Llanfwrog, Rhuthun 3ydd Tachwedd  4pm

Yr Wyddgrug- Clwb Pêl droed yr Wyddgrug 5ed Tachwedd 6.45pm

Abergele - Traeth Pensarn 3ydd Tachwedd 7.30pm

Aberdyfi- Gorsaf Dân a'r Traeth  5ed Tachwedd

Penygroes - 5ed Tachwedd 6.30pm

Y Fflint - 5ed Tachwedd

Wrecsam - 5ed Tachwedd, Bryn y Gog

Llanfaes - 4ydd  Tachwedd Canolfan Gymunedol Llanfaes

Amlwch - 5ed Tachwedd, Clwb Ieuenctid Penysarn 7pm

Y Felinheli  - 5ed Tachwedd Ffordd y Traeth, y Felinheli

Os gwyddoch chi fod pobl yn camddefnyddio tân gwyllt i achosi difrod i eiddo neu anafu rhywun, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu mewn argyfwng ffoniwch 999.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen