Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymateb i ymholiadau gan y Daily Post

Postiwyd

Wrth ymateb i'r wybodaeth a dderbyniwyd gan y Daily Post ('999 Cuts Put Lives at Risk' Dydd Sadwrn 1 Rhagfyr 2012 <http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2012/12/01/north-wales-fire-staff-shortages-put-lives-at-risk-say-whistleblowers-55578-32342053/>) fe ddywedoddRuth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi osgoi recriwtio diffoddwyr tân yn gyffredinol yn ystod y flwyddyn ariannol yma oherwydd bod ein diffoddwyr tân wedi bod mewn perygl o golli eu swyddi.  

 

"Fodd bynnag, rydym wedi recriwtio rhywfaint  ddiffoddwyr tân eleni, ym Metws-y-coed a Thywyn.

"Mae'r system cylchrestru newydd yn sicrhau bod y nifer gywir o ddiffoddwyr tân ar yr injans tân ac o ganlyniad mae 22 yn llai o ddiffoddwyr tân yn y gorsafoedd criwio dydd a gorsafoedd sifft.  

"O ganlyniad mae 22 o ddiffoddwyr tân llawn amser wedi bod ar gael i ddarparu cymorth wrth gefn mewn lleoliadau eraill ar hyd y Gogledd.   Yn ddiweddar, mae diffoddwyr tân rhan amser (neu Ddiffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw) sydd wedi colli eu prif gyflogaeth mewn cyfnod o galedi economaidd,  wedi bod ar gael i ddarparu cefnogaeth ychwanegol, gan dderbyn tâl yn unol â'r gyfradd fesul awr a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer diffoddwyr tân cymwys ac nid tâl goramser. Nid yw'r ddarpariaeth ychwanegol wedi cael unrhyw effaith ar brif orsafoedd y diffoddwyr tân hyn.  Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi parhau i ymateb i ddigwyddiadau yn brydlon.  

 

"Nid yw'r honiadau ynghylch lefelau staffio yn gywir.  Mewn ymateb i drosiant staff y System Dyletswydd yn Ôl y Galw, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio ymgyrch recriwtio wedi ei thargedu at ardaloedd penodol ym mis Ionawr 2013.  

 

"Bydd darllenwyr y Daily Post yn ymwybodol o'r erthyglau blaenorol sydd wedi nodi'r heriau a wynebwn o ran denu pobl i fod yn ddiffoddwyr tân rhan amser.  Mae wedi bod yn broblem yn y Gogledd ers blynyddoedd, ac mae hefyd yn broblem sy'n gyffredin ar draws y DU.  

"Ac felly hoffwn annog pobl sydd yn awyddus i wasanaethau yn eu cymunedau fel diffoddwyr tân i ymgeisio am y swyddi hynny.  Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan ddiwedd mis Rhagfyr.

 

"Mae'r Awdurdod Tân yn ymgynghori ar brosiectau ar gyfer 2013- 2014 ar hyn o bryd ac mae'r rhain yn cynnwys canfod y ffordd orau i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy i gymunedau'r Gogledd.   Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 7fed Ionawr ac rwy'n annog eich darllenwyr i gymryd rhan yn y gwaith o lunio ein strategaeth ariannol tair blynedd ar gyfer 2014 a thu hwnt."

 

Argaeledd a Materion sy'n gysylltiedig â digwyddiadau

 

Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) erioed wedi bod yn y sefyllfa lle na allai ddelio gyda digwyddiad oherwydd nad oedd criw ar gael.

 

Mae GTAGC yn defnyddio staff y System Dyletswydd yn Ôl y Galw i ddarparu cefnogaeth ychwanegol mewn lleoliadau eraill, mae hyn oherwydd bod mwy na digon ar gael i wasanaethau ar yr injan yn eu gorsaf hwy neu oherwydd nad oes posib defnyddio'r injan yn eu gorsaf gan  mai dim ond un neu ddau aelod o'r criw sydd ar gael, felly byddai angen ychwaneg o bobl i wasanaethu ar yr injan. Os yw staff y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau eraill i gyflenwi gwasanaeth mae'n rhaid iddynt gadarnhau gyda'r orsaf na fyddai symud i orsaf arall yn amharu ar allu eu gorsaf hwy eu hunain i ymateb i ddigwyddiadau.  Os byddai hyn yn amharu ar allu'r orsaf i ymateb, ni fyddai'r unigolion hynny'n cael eu hanfon i fan arall i ddarparu gwasanaeth ychwanegol.  Maent yn derbyn tâl yn unol â'r gyfradd fesul awr a delir i ddiffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw neu ddiffoddwyr tân Amser Cyflawn a gytunwyd gan y Cydgyngor Cenedlaethol (sydd yn cynnwys aelodau o'r gweithlu a chyflogwyr).

 

Rhosneigr

 

Mae GTAGC yn gwrthod yn llwyr yr wybodaeth a dderbyniwyd gan y Daily Post.

 

Nid oes yr un digwyddiad wedi ei gofnodi (yn achos tân yn y cartref fel y nodwyd) bod injan dân o Gaergybi wedi ei hanfon i'r digwyddiad ym mis Medi 2012 a ddigwyddodd yn ardal gorsaf dân   Rhosneigr. Roedd injan dân Rhosneigr ar gael ac fe'i hanfonwyd i'r digwyddiad dan sylw.

 

Fe ddigwyddodd y tân y tu allan i oriau'r sifft Amser Cyflawn ( (12.00 hyd 22.00 o'r gloch) yng Nghaergybi ac felly ni fyddai wedi bod angen i ni anfon criw i Gaergybi i  gyflenwi'r sifft.

 

Ein hargaeledd yn gyffredinol ar 13/11/2012

 

Mae GTAGC yn gwrthod yn llwyr yr wybodaeth a dderbyniwyd gan y Daily Post.

 

Mae GTAGC yn gweithio'n galed iawn bob dydd i wneud yn siŵr bod y nifer angenrheidiol o beiriannau tân ar gael.  Mae'n rhaid iddo wneud hyn oherwydd newidiadau yn argaeledd criwiau'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw o ganlyniad i newid yn y cyflenwad disgwyliedig oherwydd newidiadau neu newidiadau annisgwyl yn sifft gwaith prif gyflogaeth y diffoddwyr tân, salwch , staff yn mynychu hyfforddiant, gwyliau blynyddol a'r nifer gyffredinol sydd yn gweithio yn yr orsaf.  Mae'n cefnogi'r diffygion yn y cyflenwad mewn sawl ffordd, gan gynnwys defnyddio staff o'r Gronfa Adnodda Gweithredol (y diffoddwyr tân Amser Cyflawn hynny sydd  wedi llwyddo i gadw eu swyddi oherwydd y trefniadau cylchrestru newydd yn ein gorsafoedd amser cyflawn), staff Amser Cyflawn sydd ar gael oherwydd bod mwy na digon o aelodau criw Amser Cyflawn ar gael, staff y  System Dyletswydd yn Ôl y Galw o orsafoedd eraill a staff Amser Cyflawn dyletswydd dydd o adrannau eraill.

 

Ar y diwrnod dan sylw byddai 17 o orsafoedd wedi bod ynghau am gyfnod o ddwy awr oni bai ein bod wedi ymyrryd.

 

Wedi i ni ymyrryd roedd 13 ynghau am gyfnod o awr.  Roedd hyn yn ystod cyfnod tawelaf y dydd  yn nhermau nifer y galwadau a dderbyniwn a'n gweithgareddau dros gyfnod o 24 awr.  Gan amlaf mae tua 5 gorsaf ynghau yn ystod y cyfnod hwn.

 

Llifogydd 27-11-2012

 

Mae GTAGC yn gwrthod yn llwyr yr wybodaeth a dderbyniwyd gan y Daily Post.

 

Fe anfonwyd cwch yr uned Achub o Ddŵr a chriw o Fetws Y Coed (gorsaf lle'r ydym newydd recriwtio aelodau newydd) i'r digwyddiad am 10.48 ar y  27ain o Dachwedd a chawsant eu galw i nifer i ddigwyddiadau yn ardal Llanelwy drwy gydol y dydd a hyd yn hwyr yn y nos gan, weithio'n ddiflino gyda'u  cydweithir o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac unedau cwch yr  RNLI a'r RSPCA. Roedd eu gwaith yn cynnwys achub pobl ac anifeiliaid o gartrefi a oedd wedi dioddef llifogydd.

 

Offer Gwarchod Personol

 

Rydym yn gwrthod yn y modd cryfaf posibl yr honiad ein bod yn peryglu diogelwch ein staff drwy beidio â darparu'r lefel gywir o offer diogelwch neu fesurau diogelwch ar eu cyfer.

 

Mae'n bolisi gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddaru Offer Gwarchod Personol o'r safon uchaf, a hyfforddiant ar sut i'w ddefnyddio, i'w staff fel rhan o'i ymrwymiad i ddiogelwch, iechyd a lles ei weithlu.

 

Mae pob diffoddwr tân yng Ngogledd Cymru yn derbyn ei Offer Gwarchod Personol ei hun - tiwnig a throwsus diffodd tanau, helmed, esgidiau, menig a chwfl tân sydd yn costio £1200 y pen.  Mae offer diogelwch eraill megis offer anadlu, siwtiau amddiffyn rhag cemegau, offer diogelwch rhaff a siacedi achub yn ychwanegol.  

 

Ynghyd â'r ddau wasanaeth tân ac achub arall yng Nghymru, rydym yn daprau'r citiau diffodd tân mwyaf diweddar, sydd wedi eu dylunio, profi a'u cymeradwyo i'r safonau Prydeinig ac Ewropeaidd angenrheidiol.

 

Mae pob diffoddwr tân yn derbyn dau git tân sydd yn costio £470 yr un ac mae'r gwasanaeth hefyd yn cadw digon o gitiau wrth gefn.  Gall hefyd gael gafael ar gitiau drwy ddefnyddio'r stoc Cymru gyfan os nad oes modd i'r diffoddwr tân ddefnyddio'r un o'r ddau git a dderbyniodd ar unrhyw adeg.

 

Fe ddigwyddodd hyn yn ystod y llifogydd yr wythnos yma lle'r oedd trefniadau mewn lle rhyngom ni a'n darparwyr fel rhan o'r pecyn gofal i ddarparu citiau sych, glân a diogel i'n staff ddydd a'r nos gyda.

 

Mae'r citiau'n cael eu gofalu amdanynt fel rhan o'r pecyn gofal sydd yn golygu bod y gwneuthurwyr yn gyfrifol am olchi, archwilio a thrwsio'r citiau yn ôl y glaw er mwyn gwneud yn siŵr bod y cit yn amddiffyn y salw sy'n ei wisgo.

 

Mae menig yn rhan bwysig iawn o'r Offer Gwarchod Personol i unrhyw ddiffoddwr tân ac maent hwythau hefyd yn cael eu profi a'u cymeradwyo i'r safon Brydeinig neu Ewropeaidd angenrheidiol i amddiffyn yr unigolyn rhag gwres yn achos tanau a rhag anafiadau wrth ddelio gyda Gwrthdrawiadau ar y Ffyrdd. Mae pob diffoddwr tân yn derbyn dau bâr o fenig sydd yn costio £37 y pâr.

 

Mae'r Gwasanaeth yn cadw at safonau sy'n uwch na'r rheiny a argymhellir gan y gwneuthurwyr o safbwynt penderfynu a yw menig yn addas i'w defnyddio ai peidio, ac yn ystod y deuddeng mis diwethaf mae wedi newid 212 pâr o fenig ar gost o £7844. Rydym yn archwilio pob pâr o fenig sydd yn cael ei anfon yn ôl er mwyn gwneud yn siŵr bod angen rhai newydd yn eu lle ac rydym yn cadw llygaid ar ba mor addas yw'r menig (fel yn achos pob eitem yr Offer Gwarchod Personol) i wneud yn siŵr bod yr offer yr ydym wedi ei ddewis yn ddiogel i'w defnyddio.  Nid ydym yn anfon menig sydd angen eu trwsio neu fenig anniogel yn ôl i'r gorsafoedd; fodd bynnag nid ydym yn amnewid menig sydd yn cael eu hanfon yn ôl dim ond oherwydd eu bod yn fudr.

 

Ar hyn o bryd, fel rhan o'm hymrwymiad i ddiogelu ein diffoddwyr tân ac mewn cydweithrediad gyda'r ddau Wasanaeth Tân ac Achub arall yng Nghymru, rydym yn y broses o werthuso a phrofi menig ac esgidiau diffodd tanau eraill sydd ar gael ar y farchnad i wneud yn siŵr ein bod yn darparu'r Offer Gwarchod Personol goraf posib.

 

Mae sawl enghraifft ddiweddar sydd yn dyst i ymrwymiad y gwasanaeth i ddiogelu ei ddiffoddwyr tân, er gwaetha'r pwysau ariannol cyfredol. Maent yn cynnwys:

  • 21 o beiriannau newydd yn lle'r hen fflyd sydd gan y dechnoleg ddiweddaraf ac sydd wedi eu dylunio i leihau'r perygl o ddiffoddwyr tân a gwella eu hiechyd, diogelwch a'u lles. Roedd y peiriannau hyn yn costio £230,000 yr un. (cwblhawyd 2012)
  • Adolygiad o'r setiau radio a oedd yn cael eu defnyddio ar y maes tân ar hyd y Gwasanaeth.  O ganlyniad cafodd yr holl setiau radio eu hamnewid yn ogystal â phrynu ychwaneg i wella diogelwch ein diffoddwyr tân, gyda chost o £70,000 (Cwblhawyd 2011)
  • Adolygu'r holl offer cyfathrebu a oedd yn cael eu defnyddio yn yr Offer Anadlu ac o ganlyniad prynu setiau cyfathrebu integredig ar gyfer  pob tîm Offer Anadlu er mwyn eu galluogi i gyfathrebu'n glir gyda Swyddogion y tu allan i'r man peryglus e.e. tŷ sydd ar dân i wella diogelwch ein diffoddwyr tân  a gostiodd dros £76,000. (Cwblhawyd 2012)
  • Gwneuthurwyr yn profi'r helmedau a ddefnyddir gan y gwasanaeth yn barhaus er mwyn ein galluogi i barhau i amddiffyn ein diffoddwyr tân i'r eithaf.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen