Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhoi diogelwch tân ar frig eich rhestr Nadolig

Postiwyd

Gyda'r Nadolig ar ein gwarthaf bydd pobl yn treulio mwy o amser adref gyda'r teulu, ac o'r herwydd mae'r tebygolrwydd o ddioddef tân yn y cartref yn cynyddu'n sylweddol.  

Ar gyfartaledd mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei alw i un neu ddau o danau yn y cartref bob dydd - ond dros gyfnod y Nadolig mae hyn yn cynyddu i 5 tân y diwrnod.

Ym mis Rhagfyr 2011, offer coginio oedd prif achos 47% o'r holl danau yn y cartref, ac roedd y tanau hyn yn gyfrifol am 80% o anafiadau drwy gydol y mis - roedd yr offer yn cynnwys eilch trydan neu hobïau, poptai neu boptai micro-don.

Hefyd, fe achoswyd 36% o danau yn y cartref gan ddeunyddiau ysmygu, cyfarpar trydanol eraill, matsis a chanhwyllau ac offer gwresogi.

"Gofalwch na fyddwch yn cofio'r Nadolig hwn am y rhesymau anghywir", rhybuddia Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Cymunedol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

"Mae tanau yn y cartref yn lladd - mae'n rhaid ystyried y peryglon o ddifrif ac felly rydym yn gofyn i'r cyhoedd weithio gyda ni i leihau'r perygl o dân yn y cartref.

"Pam na wnewch chi alw i weld eich perthnasau, ffrindiau neu gymdogion hŷn neu fregus cyn yr ŵyl, i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel - dylai fod gosod larwm mwg yn y cartref ar frig eich rhestr o bethau i'w gwneud cyn y Nadolig.

"Efallai bydd y tywydd oer yn amharu ar fatri eich larwm mwg - cofiwch brofi'ch larwm unwaith yr wythnos a chysylltwch â ni ar unwaith os oes unrhyw beth yn bod ar y larwm.

"Mae archwiliadau diogelwch tân yn y cartref ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  Bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, eich helpu i lunio cynllun dianc, rhannu cynghorion diogelwch tân yn y cartref a gosod larymau mwg newydd os oes angen - a'r cyfan yn rhad ac am ddim.   Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref y rhad ac am ddim, galwch ein llinell 24 awr ar 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk

 

Cyngor ar ddiogelwch tân dros y Nadolig

 

-     Gwnewch yn siŵr bod y ffiwsys cywir wedi eu  gosod mewn plygiau, a bod y plygiau wedi eu weirio'n gywir ac nad ydi'r gwifrau wedi eu difrodi.

-     Peidiwch â gorlwytho socedi trydan.

-     Cyn mynd i'r gwely diffoddwch a thynnwch blwg eich goleuadau Nadolig ac unrhyw gyfarpar trydanol nad oes rhaid eu gadael ymlaen.

-     Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno - diffoddwch eich popty os oes raid i chi adael y gegin.

-     Peidiwch â choginio os ydych wedi bod yn yfed - gall alcohol amharu ar eich synnwyr cyffredin.

-     Peidiwch â defnyddio goleuadau addurniadol y tu allan, hyd yn oed os ydynt wedi eu cysgodi rhag y tywydd, oni bai eu bod yn oleuadau sy'n addas i'w defnyddio tu allan,.

-     Peidiwch byth â gadael canhwyllau heb neb i gadw llygaid arnynt a pheidiwch byth â'u gosod yn agos at eich coeden Nadolig, dodrefn neu lenni.

-     Mae addurniadau'n llosgi'n hawdd iawn - peidiwch byth â'u gosod yn ymyl goleuadau neu wresogyddion.

-     Gwnewch yn siŵr eich bod sigaréts wedi eu diffodd yn llwyr.

-     Cadwch gardiau Nadolig, hosanau, anrhegion, addurniadau a phapur lapio wedi ei ddefnyddio ymhell o danau agored a gwresogyddion.

-     Cadwch goed Nadolig go iawn ymhell o danau agored a ffynonellau gwres eraill gan eu bod yn hylosg iawn, yn enwedig wrth iddynt sychu.

-     Lluniwch gynllun dianc rhag tân a gwnewch yn siŵr bod gwesteion yn gwybod lle mae agoriadau drysau a ffenestri'n cael eu cadw.

-     Cofiwch - mae larymau mwg yn achub bywydau.  Maent yn synhwyro mwg yn gynnar iawn wed i dân  gynnau, gan roi cyfle i chi ddianc.

-           Gwnewch yn siŵr bod eich larymau mwg yn gweithio - peidiwch â thynnu batri'r larymau er mwyn eu defnyddio mewn anrhegion Nadolig.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen