Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub Dyn o Dân Yn Ei Gartref Yn Wrecsam

Postiwyd

Am 8.24 pm heno (Nos Sul 11 Mawrth) galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd i dân mewn tŷ yn Ffordd Caer, Wrecsam.

Anfonwyd dau beiriant tân i'r digwyddiad lle achubwyd dyn 51 mlwydd oed gan ddiffoddwyr tân. Fe'i cludwyd i'r ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.

Nid oes rhagor o wybodaeth ynglŷn â'i gyflwr ar hyn o bryd.

Roedd yr Heddlu hefyd yn bresennol a dywedodd Tony Jones, Swyddog Gorsaf, mai rhywun a oedd ar ei ffordd i'r tŷ a alwodd am help ar ôl clywed y larwm yn seinio wrth iddi ddod allan o'r car.

Meddai: "Digwyddodd y tân mewn un ystafell ac y mae'r digwyddiad yn dangos ei bod yn bwysig gosod larymau mwg yn y cartref.

"Cawsom ein rhybuddio am y tân yn gynnar ac felly roedd modd i ni gyfyngu'r difrod a achoswyd gan y tân. "
Dywedodd nad oeddent yn credu bod y tân yn amheus.

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim a chyngor ar ddiogelwch tân, gofynnwn i chwi alw llinell rhadffôn 24 awr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 0800 169 1234, mynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfon neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen