Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub Tri o Bobl o Gartref Preswyl Yn Yr Wyddgrug

Postiwyd

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i dân mewn cartref preswyl yn Ffordd New Brighton, yr Wyddgrug am 17.57o'r gloch heno (Dydd Mercher 21ain Mawrth).

Fe anfonwyd tri pheiriant tân o Lannau Dyfrdwy a'r Wyddgrug, ynghyd â Pheiriant ag Ysgol ac Esgynlawr o Wrecsam, i'r digwyddiad.  Fe  achubodd y diffoddwyr tân dair dynes o'r eiddo.  

Cafodd dau o bobl, gweithiwr gofal ac un o drigolion y cartref, eu cludo i'r ysbyty am driniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg a chafodd perthynas i un o drigolion y cartref driniaeth yn y fan a'r lle.

Cafodd y gweithiwr gofal a'r perthynas eu hachub o ffenest ar y llawr cynaf ym mlaen yr adeilad a bu'n rhaid tywys y ddynes arall i lawr  y grisiau o'r llawr cyntaf.

Meddai Andy Robb o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedd y tân wedi ei gyfyngu i'r ystafell gawod ar y llawr cyntaf.  Fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i'r ystafell a difrod mwg i weddill y llawr cyntaf.  

"Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a phrif bibell ddŵr i ddiffodd y tân.  Cafodd trigolion y cartref eu rhybuddio am y tân gan y larymau mwg.  O'r herwydd roedd modd i'r trigolion eraill adael yr adeilad cyn i ni gyrraedd.  Rydym wrthi'n ymchwilio i achos y tân."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen