Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dihangfa Lwcus I Deulu o Fodfari

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân am ddwyn i'r amlwg beryglon peidio â gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref wedi i deulu o bedwar o Sir Ddinbych gael dihangfa lwcus o dân yn eu cartref yn ystod oriau mân y bore yma (Dydd Sadwrn 3 Mawrth).

Galwyd diffoddwyr tân o Ddinbych a Llanelwy i'r eiddo ym Modfari am at 01:15 o'r gloch wedi i'r preswylwyr gael eu deffro gan sŵn clecian yn dod o'r gegin wrth i'r tân fagu nerth.

Cafodd tri aelod o'r teulu, dyn 63 mlwydd oed, dynes 46 mlwydd oed a merch 16 mlwydd oed , eu cludo i'r ysbyty i dderbyn triniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.

Nid oedd larymau mwg gweithredol yn yr eiddo.

Achoswyd y tân gan badell ffrïo a oedd wedi cael ei gadael. Fe achosodd y tân ddifrod mwg 100% yn y gegin, difrod mwg 50% i nenfwd a wal y gegin a difrod mwg 50% i'r ystafell fwyta.

Dywedodd Simon Talbot o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r teulu'n ffodus iawn eu bod wedi llwyddo i ddianc yn ddiogel - ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref. Roedd pawb yn cysgu pan ddigwyddodd y tân a phe na byddai'r preswylydd wedi cael ei ddeffro gan sŵn y tân , mae'n ddigon posib y byddem yn delio gyda digwyddiad trasig arall yma yng Ngogledd Cymru.

"Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar ac yn rhoi cyfle hanfodol i ddianc o'r eiddo. Os bydd tân yn cynnau gefn nos a'r teulu i gyd yn cysgu, mae perygl iddynt gael eu llethu gan y mwg tra byddant yn cysgu a pheidio â deffro o gwbl, oni bai fod larwm mwg i'w rhybuddio.
"Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio am fwyd sydd yn coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, ddim yn canolbwyntio neu wedi bod yn yfed. Gall tanau fel hyn fod yn drychinebus. Felly peidiwch â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno, hyd yn oed am funud - defnyddiwch amserydd cegin i'ch atgoffa.

" Fe ddefnyddiodd y teulu bibell ddŵr i ddiffodd y tân ac fe achosodd hyn lawer o fwg, ac o ganlyniad bu iddynt anadlu llawer o fwg - peidiwch byth â cheisio diffodd y tân eich hun. Ewch allan a galwch y gwasanaeth tân ac achub."

Rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim drwy alw rhadffôn 24 awr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 0800 169 1234, fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk <http://www.gwastan-gogcymru.org.uk> neu anfonneges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen