Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ewyn Cefnogaeth I Elusen y Diffoddwyr Tân

Postiwyd


Mae diffoddwyr tân ar hyd a lled y Gogledd yn paratoi i dorchi eu llewys i gymryd rhan yn yr Olchfa Geir Genedlaethol y mis yma, gyda'r nod o godi cymaint o arian â phosibl i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Gwahoddir gyrwyr i fynd â'u ceir i gael eu golchi am gyfraniad i Elusen y Diffoddwyr Tân. Dyma elusen flaenllaw yn y DU sydd yn darparu gwasanaethau i wella bywydau personél y gwasanaeth tân a rhai sydd wedi ymddeol, ynghyd â'u teuluoedd.

Mae Gareth Griffiths o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn egluro mwy: "Bydd gorsafoedd ar hyd a lled y rhanbarth yn cymryd rhan yn yr olchfa geir ar ddyddiau Sadwrn drwy gydol y mis - ewch draw i'ch gorsaf dân leol i gael golchi eich car a chael gwybod mwy am ddiogelwch tân!"

Mae'r gorsafoedd canlynol yn cymryd rhan ar y dyddiau isod - ond mae mwy o orsafoedd yn cofrestru pob dydd felly i weld a yw eich gorsaf chi'n cymryd rhan ac am ragor o wybodaeth ewch i
www.facebook.com/Northwalesfireservice

Dydd Sadwrn 10fed Mawrth

Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl, Ffordd y Glannau (10am - 2pm)
Gorsaf Dân Llandudno, Ffordd Conwy (Cychwyn am 10am )

Dydd Sadwrn 17eg Mawrth

Gorsaf Dân Wrecsam, Ffordd Bradley (9.30am - 4:00pm)
Gorsaf Dân Treffynnon (cychwyn am 10am)

Dydd Sadwrn Mawrth 24ain

Gorsaf Dân Amlwch (Cynhelir ym maes parcio'r Farchnad)
Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy (9.30am - 3.30pm)
Gorsaf Dân Bae Colwyn (10am - 4pm)
Gorsaf Dân Llanelwy (10am - 4pm)
Gorsaf Dân Caernarfon (10am - 3pm)
Gorsaf Dân y Fflint

Dydd Sadwrn 31ain Mawrth

Gorsaf Dân yr Wyddgrug (10am - 3.30pm)
Gorsaf Dân Tywyn
Gorsaf Dân Llanrwst
Gorsaf Dân Pwllheli
Gorsaf Dân Corwen


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen