Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Kronospan Ltd, Ffordd Caergybi, Y Waun

Postiwyd

Am 5.20pm heno, Dydd Mawrth 12fed Mehefin 2012, cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân yn Kronospan Ltd, Y Waun. Fe anfonwyd pedwar o beiriannu i'r digwyddiad, sef cludwr ewyn a pheiriant ag ysgol ac esgynlawr o Orsafoedd Tân  Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a  Llangollen.
Meddai Gareth Griffiths o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedd y tân wedi ei gyfyngu i burwr yn yr adran gynhyrchu ac fe lwyddom i'w ddiffodd ar unwaith. Ni chafodd unrhyw un ei anafu  yn ystod y digwyddiad."
Ni wyddys beth a achosodd y tân ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen