Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i gefnogwyr pêl droed beidio ag yfed a choginio yn ystod Euro 2012

Postiwyd

Mae neges i ddilynwyr pêl droed brynu bwyd parod ar eu ffordd adref o'r dafarn yn ystod cystadleuaeth Euro 2012, yn hytrach na pheryglu eu bywydau'n coginio gartref o dan ddylanwad alcohol.

Mae'r gystadleuaeth bellach yn ei hanterth, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am annog y cefnogwyr hynny sy'n llwglyd ar ôl ychydig o beintiau i brynu bwyd parod ar eu ffordd adref yn hytrach na choginio eu hunain.

Dywedodd Gareth Griffiths, yr Uwch Reolwr Diogelwch Tân:  "Yn ystod Euro 2012, bydd nifer yn gadael eu gwaith a mynd yn syth i'r dafarn i wylio pêl droed.

"Mae ein gwaith ymchwil ni yn dangos bod coginio ar ol yfed un yn ormod yn chwarae rhan fawr mewn tanau tai - dydy alcohol a choginio ddim yn cymysgu. Mae'n eich gwneud yn lletchwith ac yn fwy tebygol o gael tân, ac yn llai tebygol o ddianc os bydd tân.
 
"Efallai y bydd nifer yn gwylio'r gêm gartref gyda chaniau cwrw - a'r cyngor iddyn nhw fyddai i baratoi brechdanau neu bryd o fwyd ymlaen llaw yn hytrach na chael eu temtio i goginio ar ol yfed alcohol. Os nad ydych yn bwriadu yfed ond eich bod yn meddwl coginio pryd o fwyd tra bydd y pêl droed ymlaen, mae'n bwysig peidio tynnu eich sylw oddi ar y bwyd am eiliad tra bydd yn coginio - gall tanau coginio ledaenu'n gyflym iawn.

"Felly os ydych chi wedi bod yn y dafarn yn gwylio'r gêm, bachwch fwyd ar y ffordd adref yn lle coginio. Ac os ydych yn methu a thynnu'ch llygaid oddi ar y ciciau cosb, diffoddwch y popty a thynnwch y sosban oddi ar yr hob."


Er mwyn cadw'n ddiogel rhag tân, dylai pob cartref gael larymau mwg sy'n gweithio ar bob llawr. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn ymweld â'ch cartref i roi cynghorion ac awgrymiadau ynglŷn â diogelwch tân, a'ch helpu i lunio cynllun dianc mewn tân a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i holl drigolion Gogledd Cymru.

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, ffoniwch y llinell gymorth 24 awr ar 0800 169 1234, e-bostio cdtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen