Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn cwt lle cedwir silindrau asetylen

Postiwyd

Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael eu galw i dân mewn adeilad ar iard sgrap ar Ffordd Bryn Estyn, Llan Y Pwll, Wrecsam yn ystod oriau mân y bore yma, Dydd Llun 18fed Mehefin.
 
Fe anfonwyd dau beiriant o Wrecsam i'r fan lle cadarnhawyd bod silindr Ocsi-Asetylen yn cael ei gadw yn yr adeilad lle'r oedd y tân.
 
Gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru, bu'n rhaid gwacau siop gyfagos.
 
Daethpwyd â'r tân dan reolaeth ar unwaith ac ar hyn o bryd mae'r gwaith o oeri'r silindr asetylen yn mynd rhagddo.

Fe achosodd y tân ddifrod 100% i'r gweithdy, dau gerbyd a'r silindr ac mae ymchwiliad i achos y tân nawr ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen