Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr Tân o’r Rhyl yn herio sialens feicio o gastell i gastell

Postiwyd

Bydd wyth o ddiffoddwyr tân o Orsaf Dân y Rhyl yn cymryd rhan mewn taith feicio noddedig o'r Gogledd i'r De y mis yma.

Bydd y tîm yn cychwyn o Gastell Caernarfon  ar 27ain Mehefin ac yn gobeithio cyrraedd Castell Caerdydd drannoeth er mwyn codi arian i elusen y Diffoddwyr Tân ac achosion da lleol sef Hosbis St Kentigern a PhentrePeryglon.

Mae'r wyth yn cynnwys; Chris Nott, Rheolwr Ymateb Sir Ddinbych, Kevin Warner, Rheolwr Gwylfa, Richie Westwood, Duncan Stewart-Ball, a Helen Pitt, Rheolwyr Criw a'r diffoddwyr tân Glyn Morris, Duncan Spencer a David Bell. Bydd y Diffoddwyr Tân Melvin Roberts a'r Rheolwr Gwylfa Adam Brightman yn eu cefnogi.

Mae Kevin Warner, Rheolwr Gwylfa, Y Wylfa Wen, y Rhyl, yn egluro mwy:
"Rydym ni gyd yn edrych ymlaen am y sialens er mwyn codi arian at yr achosion da yma.

"Yn ystod y diwrnod cyntaf bydd y tîm yn seiclo 135 o filltiroedd ar hyd arfordir y Gogledd ac i lawr i ganolbarth Cymru cyn cael seibiant yn Llandrindod.  Yn ystod yr ail ddiwrnod byddant yn teithio dros Fannau Brycheiniog i gwblhau'r 87 milltir olaf cyn cyrraedd Castell Caerdydd.

"Mae pawb wedi bod yn ymarfer yn selog ar ei feic ac felly rydym yn gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn ein cefnogi ni yn ystod y sialens!"

Os hoffech gefnogi'r rhai sydd yn cymryd rhan yn y sialens, galwch yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl am ffurflenni noddedig, neu cysylltwch â staff yr Orsaf Dân Gymunedol ar 01745 352699.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen