Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cofrestrwch am archwiliad diogelwch fferm am ddim yn y sioe eleni

Postiwyd

Mewn ymgais integredig ac ar y cyd i leihau nifer y tanau fferm, mae NFU Cymru wedi ymuno gyda'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru i lansio ymgyrch newydd i leihau nifer y tanau fferm yng Nghymru.

Bydd yr ymgyrch Cymru Gyfan hwn yn cael ei lansio yn ystod Sioe Frenhinol Cymru'r wythnos nesaf.  Wrth siarad cyn y lansiad fe ddywedodd Ed Bailey,  Arlywydd NFU Cymru , " Gall tanau fferm fod yn drychinebus. Gall tân beryglu bywydau pobl ac anifeiliaid, heb sôn am achosi difrod i adeiladau, cyflenwadau bwyd a pheiriannau a gall ddod a gwaith ar y fferm i ben - gan achosi difrod werth miloedd o bunnoedd.

"Mae diogelwch tân yn cyd-fynd ag Ymgyrch Diogelwch Fferm NFU Cymru a byddwn yn cefnogi'r gwasanaeth tân ac yn annog ein haelodau i gofrestru am archwiliad diogelwch fferm am ddim."

Mae'r fenter yn cael ei lansio yn dilyn cyhoeddiad ystadegau ceisiadau  ar ran un o'r prif yswirwyr gwledig yng Nghymru, NFU Mutual. Mae'r ystadegau hyn yn dangos bod nifer y tanau fferm yng Nghymru wedi treblu yn ystod 2011.  Fe dderbyniodd NFU Mutual, sydd yn darparu yswiriant i ddwy ran  o dair o ffermwyr Cymru, 39 o geisiadau yn ymwneud â thanau fferm yn 2011 o gymharu â 11 yn 2010.

"Rydym yn poeni'n arw am y cynnydd hwn yn nifer y tanau fferm yng Nghymru" meddai Richard Percy,  Cadeirydd NFU Mutual.

"Yn ogystal â pheryglu bywydau pobl ag anifeiliaid, gall tanau fferm ddinistrio gwerth blynyddoedd o waith.  Er y gall yswiriant dalu am y colledion ariannol, ni ellir rhoi pris ar fywyd, ac felly rydym yn erfyn ar i ffermwyr  gymryd mantais o ddulliau atal tân a chyngor gan y gwasanaethau tân a'n is-gwmni, NFU Mutual Risk Management Services."

MeddaiGareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, "Rydym yn cynghori ffermwyr i dalu sylw penodol i'r risgiau tân sydd o'u cwmpas a gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn eu hunain, yn enwedig gan fod llai o bobl yn gweithio ar ffermydd y dyddiadau hyn  a mwy o beiriannau mawr a chymhleth, storfeydd mawr a pheryglon tân sylweddol megis teisi gwair a gwellt, gwrtaith, tanwydd, poteli nwy a phlaladdwyr - sydd yn aml yn cael eu cadw i'w defnyddio yn y misoedd sydd i ddod.

"O ganlyniad mae asedau gwerthfawr iawn yn aml yn cael eu cadw'n agos at nifer o ffynonellau gwres a thanio. Er enghraifft, dylid cymryd camau i ddiogelu ffermydd rhag fandaliaid, llosgwyr neu gerddwyr diofal os yw'r fferm yn agos at ffyrdd, llwybrau cyhoeddus neu unrhyw fan cyhoeddus arall.  

"Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn cynnig cyngor am ddim i ffermwyr ar y peryglon tân i'w cartrefi a'u ffermydd yn ogystal â chyngor ar sut i atal tân a chanllawiau ar gyfer llosgi dan reolaeth.

"Mae'r rhagofalon hyn yn cynnwys cynnal a chadw peiriannau a cherbydau a'u cadw'n lân, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod systemau trydanol a gwifrau yn cael eu harchwilio'n rheolaidd - yn enwedig os ydynt wedi eu lleoli mewn tai allan lle cedwir cnydau neu stoc anifeiliaid.  

"Yn aml iawn gwellt a gwair yw'r pethau cyntaf i fynd ar dân. Er eu bod yn hylosg iawn, maent yn bethau cyffredin iawn ar ffermydd ac yn aml iawn mae pobl yn anghofio'r peryglon. Mae'r rhagofalon tân y dylid eu cymryd yn cynnwys:

  • Symud y gwellt a'r gwair o'r cae cyn gynted ag y gellir ar ôl ei gynaeafu;
  • Storio'r gwellt a'r gwair;

o  ymhell o adfeiliadau eraill, yn enwedig adeiladau lle cedwir tanwydd, agrogemegion a pheiriannau

o  eu cadw mewn pentyrrau rhesymol o ran maint, ac o leiaf 10m oddi wrth ei gilydd - peidiwch â'u gosod i gyd yn yr un lle      

o  eu cadw ymhell o adeiladau lle cedwir anifeiliaid neu dŷ fferm ac ymhell o lwybrau/lonydd/ffyrdd/llwybrau cyhoeddus os yw hyn yn ymarferol bosibl

o  cofnodi'r tymheredd yn rheolaidd."

"Llosgi bwriadol yw un o brif achosion tanau fferm, ac felly mae'n bwysig bod y fferm yn cael ei diogelu.  Mae'n bwysig bod ffermwyr da byw yn cadw eu stoc mor bell â phosibl oddi wrth bobl.  Gall sustemau diogelwch megis Teledu Cylch Cyfyng fod o gymorth ond y mae cadw cŵn a gwyddau hefyd yn ffordd effeithiol o gael rhybudd cynnar os bydd rhywun yn tresbasu ar eich tir.  Mae cynlluniau Gwarchod Ffermydd lleol hefyd yn ffyrdd effeithiol o gadw llygaid ar ymddygiad amheus neu dân yn ei gyfnod cynnar cyn iddo achosi gormod o ddifrod.  Os gwelwch rywun yn ymddwyn yn amheus yn agos at das neu feudy - rhowch wybod i rywun!"

Bydd staff o'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wrth law yn ystod y sioe, ar stondin NFU Cymru,  i ddarparu cyngor a chyfarwyddyd ar ddiogelwch tân ar y fferm a threfnu asesiadau diogelwch fferm am ddim.  Os na allwch fynd i'r sioe ond eich bod yn awyddus i drefnu archwiliad diogelwch fferm gan y gwasanaeth tân galwch 0800 169 1234.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen