Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Myfyrwyr yn cael blas ar goginio’n ddiogel

Postiwyd

Y mae diffoddwyr tân lleol wedi bod yn ymweld â cheginau yn neuaddau preswyl ym Mhrifysgol Bangor dros yr wythnosau diwethaf er mwyn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn coginio'n ddiogel.

 

Fel rhan o'r ymgyrch diogelwch myfyrwyr bu staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor yn ystod cyfres o sgyrsiau a roddwyd i'r myfyrwyr yn y gwahanol neuaddau ynglŷn â pheryglon gadael bwyd yn coginio a choginio ar ôl bod yn yfed.

 

Bu iddynt hefyd fachu ar y cyfle i siarad gyda'r myfyrwyr am sut y gallant hwy helpu i leihau galwadau diangen yn y Brifysgol.

 

Y mae Eilian Roberts, Rheolwr Gwylfa, Yr Wylfa Las, Bangor yn egluro; meddai: "Rydym wedi siarad gyda dros 2000 o fyfyrwyr am goginio'n ddiogel ac fe roesom gyngor iddynt ar sut i gadw'n ddiogel.  Rydym hefyd wedi rhoi cyngor ar sut i osgoi galwadau ffug yn y neuaddau preswyl - rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r brifysgol ar y mater ers rhai blynyddoedd bellach ac rydym wedi gweld llawer iawn o gynnydd.

 

"At hyn, fis nesaf byddwn yn targedu myfyrwyr mewn cartrefi preifat.  Byddwn yn curo ar ddrysau i gynnig archwiliadau diogelwch tân yn rhad ac am ddim er mwyn eu helpu i gadw mor ddiogel â phosib.

 

"Y mae nifer o'r bobl ifanc yn byw ar eu pen eu hunain am y tro cyntaf ac felly mae'n bosib y gallant fod yn agored i niwed.

 

"Rydym hefyd yn defnyddio ein tudalennau rwydweithio cymdeithasol i rannu ein negeseuon - ewch i www.facebook.com/Northwalesfireservice ac edrychwch ar y tab 'Cystadleuaeth i Fyfyrwyr' i gael gwybod mwy ac am gyfle i ennill Kindle, neu dilynwch ni ar Twitter @northwalesfire."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen