Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dyn a dynes yn yr ysbyty wedi tân mewn fflat yng Nghonwy

Postiwyd

Mae dyn a dynes wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân yng Nghonwy.

Galwyd criwiau o Gonwy a Llandudno i'r fflat llawr cyntaf yn Berry Street am 17.18 o'r gloch heno, Nos Wener 15fed Chwefror.

Cafodd dynes 34 mlwydd oed ei hachub o'r fflat gan ddiffoddwyr tân wedi i berchennog safle masnachol cyfagos seinio rhybudd ar ôl gweld fflamau a  mwg yn dod o'r fflat.  

Cafodd y ddynes anafiadau difrifol yn y tân ac mae'n derbyn triniaeth yn yr uned gofal dwys ar hyn o bryd.

Llwyddodd y dyn 36 mlwydd oed i ddianc o'r tân ac y mae'n derbyn triniaeth oherwydd ei fod wedi anadlu mwg.  

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu, dwy brif bibell a chamera delweddu thermol i achub y ddynes a diffodd y tân.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen