Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Erfyn ar ffermwyr i ‘Alw cyn Llosgi!’

Postiwyd

A hithau'n addo i'r tywydd droi'n fwynach wrth i'r tymor llosgi ddod i ben, mae diffoddwyr tân yn erfyn ar i ffermwyr losgi dan reolaeth  yn y modd mwyaf diogel ac effeithiol â phosibl.

Mae'r Rheolau Llosgi Grug a Glaswellt yn dynodi mai dim ond rhwng 1af Hydref a 31ain Mawrth y caniateir llosgi ar uwchdiroedd a  rhwng 1af Tachwedd a 15fed Mawrth ymhobman arall.

Bydd nifer o ffermwyr nawr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir.

Mae staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymweld â marchnadoedd anifeiliaid ar hyd a lled y rhanbarth er mwyn atgoffa tirfeddianwyr sut i losgi yn ddiogel.  

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Rydym yn erfyn ar i dirfeddianwyr sydd yn bwriadu llosgi dan reolaeth  gysylltu â ni cyn gwneud drwy ffonio'r Ystafell Reoli ar 01745 535805. Bydd hyn yn ein helpu i osgoi galwadau tân ac anfon criwiau i danau yn ddiangen yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb petaech yn colli rheolaeth ar y tân.

"Rydym hefyd yn gofyn i'r tirfeddianwyr hyn fod yn gyfrifol wrth losgi dan reolaeth. Mae tanau fel hyn yn cael eu cynnau mewn ardaloedd sydd yn anodd eu cyrraedd a lle mae'r cyflenwad ddŵr yn brin - gall tân sydd allan o reolaeth roi pwysau mawr ar adnoddau, gan y bydd diffoddwyr tân yn brysur am beth amser yn ceisio dod â'r tân dan reolaeth. Gall y tanau hyn beryglu cartrefi ac anifeiliaid heb sôn am fywydau'r criwiau a thrigolion gan na fydd diffoddwyr tân ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys gwirioneddol.  

Gofynnwn i ffermwyr ddilyn y canllawiau isod os ydynt yn bwriadu llosgi dan reolaeth:
 
 - Sicrhewch fod digon o bobl o gwmpas a bod offer digonol ar gael rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân.
- Edrychwch i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu i sicrhau nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt
 -Os collwch reolaeth ar y tân cysylltwch â'r gwasanaeth tân yn syth gan roi manylion lleoliad a mynediad.
- Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn arofalu amdano neu beidio â chael digon o bobl i'w gadw dan reolaeth. - Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd yn llwyr cyn gadael a dychwelwch i'r fan y diwrnod canlynol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyw wedi ailgynnau."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen