Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn troi at ddrama er mwyn ceisio mynd i’r afael â thanau bwriadol

Postiwyd

 

Yr wythnos hon mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dadlennu cynllun peilot arloesol i'w helpu  i fynd i'r afael â'r broblem o danau bwriadol yn ardal Wrecsam.

 

Mae staff o Swyddfa Diogelwch Sirol Wrecsam a'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol wedi cydweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr ar brociest theatr fforwm newydd sbon.

 

Mae'r ddrama 'Cross-fire' yn edrych ar ganlyniadau cynnau tanau bwriadol a barn pobl ifanc yn yr ardal am y drosedd.  Cafodd y ddrama ei chreu a'i chynhyrchu gan fyfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr yn dilyn comisiwn gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Cafodd disgyblion o'r Unedau Cyfeirio Disgyblion yn Wrecsam a disgyblion o ysgolion uwchradd y dref eu gwahodd i Brifysgol Glyndŵr i fod yn rhan  o'r profiad theatr rhyngweithiol hwn lle cawsant gyfle i weld y ddrama yn digwydd o'u cwmpas.

 

Cafodd y ddrama ei llwyfannu yn yr 'hen undeb', sydd bellach yn adeilad gwag, ac roedd yn cynnwys defnyddio darnau fidio a thechnoleg newydd i rannu'r neges â'r bobl ifanc drwy ddangos iddynt yr effaith y mae tanau bwriadol yn ei gael ar grŵp o ffrindiau.

 

Wedi'r perfformiad cafwyd gweithdy rhyngweithiol, a oedd yn cynnwys y cymeriadau a oedd yn ymddangos yn y ddrama a staff y gwasanaeth tân ac achub.  Bydd staff o Brifysgol Glyndŵr yn edrych ar y sylwadau a'r farn a fynegwyd yn ystod y gweithdy fel cynsail i waith ymchwil ar y broblem o gynnau tannu bwriadol yn ardal Wrecsam

 

MaeGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn egluro mwy : "Mae'r broblem o danau bwriadol yn ardal Wrecsam wedi bodoli ers rhai blynyddoedd bellach, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd  ac arloesol i roi ar ddeall i bobl ifanc bod tanau bwriadol yn arwain at ganlyniadau difrifol iawn.  Rydym wedi cydweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr ar nifer o brosiectau, a chyda'n gilydd cawsom y syniad i greu darn theatr fforwm a fyddai'n canolbwyntio ar y broblem o gynnau tanau bwriadol.

 

"Rydym wrth ein bodd efo naws y ddrama.  Trwy ddefnyddio syniadau a storïau sydd wedi eu creu gan fyfyrwyr ifanc credwn y bydd y gynulleidfa yn uniaethu â'r negeseuon sy'n cael eu hamlygu yn y ddrama  ac y byddant yn meddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd."

 

Meddai Huw Garmon, Uwch Ddarlithydd Teledu a Pherfformiad ym Mhrifysgol Glyndŵr: "Mae theatr ar ei gorau pan fydd yn ymgysylltu â'r gymuned ac yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r perfformiad hwn wedi ei greu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc ac rydym yn mawr obeithio y bydd yn eu hannog i feddwl ddwywaith cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau peryglus o'r math hwn".

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen