Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn croesawu adolygiad Syr Ken Knight i Awdurdodau Tân ac Achub Lloegr, sydd yn rhoi cefnogaeth yn bennaf i’r dull a ddefnyddir gan y tri Gwasanaeth yng Nghymru.

Postiwyd

Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn croesawu adolygiad Syr Ken Knight i Awdurdodau Tân ac Achub Lloegr, sydd yn rhoi cefnogaeth yn bennaf i'r dull a ddefnyddir gan y tri Gwasanaeth yng Nghymru. Mae'r dull hwn yn atgyfnerthu agenda Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r sector cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi bod yn gweithredu ers sawl blwyddyn.

 

Mae alinio'r gwasanaeth a gyflwynir gennym i gyd-fynd ag anghenion y cyhoedd a'r peryglon sy'n eu hwynebu, yn sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn gweithio. Er mwyn helpu yn hyn o beth, mae gwaith sylweddol wedi ei wneud, yn aml trwy Gymru gyfan, i adolygu'r amrediad eang o wasanaethau a ddarparwn i gymunedau Cymru a'r ffordd yr ydym yn eu cyflwyno. O ganlyniad, mae nifer o ddulliau dyfeisgar a blaengar o weithio a chydweithio wedi eu datblygu ar draws y Gwasanaethau yng Nghymru a'r sector cyhoeddus ehangach.

 

Dros y degawdau diwethaf, mae natur y digwyddiadau brys y mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymdrin â nhw wedi newid yn sylweddol. Yn y gorffennol, roedd mwyafrif y galwadau a gafwyd yn ymwneud a thanau, ond dros tua'r ddegawd ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd dramatig yn nifer y digwyddiadau brys eraill yr ydym yn ymdrin â nhw. Gall y rhain amrywio o ddamweiniau ffordd, llifogydd, achub bariatrig, digwyddiadau cemegol ac amgylcheddol, achub anifeiliaid mawr a chynorthwyo cydweithwyr y gwasanaethau brys eraill i gael mynediad i eiddo, gweithio ar uchder a digwyddiadau cenedlaethol, fel y Gemau Olympaidd. Yn ogystal â hyn, mae ein gwaith ataliol i leihau tanau a damweiniau ffordd wedi cynyddu'n sylweddol dros y cyfnod hwn, ac mae'n gyfrifol am y gostyngiad yn y galwadau tan y cyfeirir ato yn yr adroddiad.  

 

Er mwyn gallu cyflwyno'r amrediad eang hwn o wasanaethau a sicrhau bod ein criwiau wedi eu hyfforddi'n broffesiynol a bod ganddynt yr offer cywir i wneud hynny, mae'n golygu adolygu a datblygu gwasanaethau'n barhaus. Er mwyn cynorthwyo gyda hyn, mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn cydweithio'n naturiol, ac yn ogystal â hynny, ffurfiwyd y Pwyllgor Materion Cenedlaethol er mwyn datblygu'r gwaith hwnnw ar draws y Gwasanaethau ymhellach hyd yn oed. Mae gennym gysylltiadau cryf gyda gwasanaethau brys eraill a chydweithwyr a phartneriaid eraill gan gynnwys y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys, yr heddlu, ambiwlans, gwylwyr y glannau, RNLI, achub o chwareli, milwrol, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau iechyd a sefydliadau addysg, er mwyn sicrhau arferion gwaith clos a'r un cyfeiriad wrth gyflwyno gwasanaethau. Mae'r trefniadau hyn hefyd yn rhoi cyfle helaeth i ni rannu'r arferion gorau a dysgu o brofiadau eraill, fel y mae adroddiad Syr Knight yn ei awgrymu.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen