Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn eiddo yn Llandudno

Postiwyd

Mae injans tân o Llandudno, Bae Colwyn a Chonwy, ynghyd â'r peiriant cyrraedd yn uchel o'r Rhyl, wedi cael eu galw i ymdrin â thân mewn eiddo ar Ffordd Elisabeth, Llandudno am 13:23 o'r gloch heddiw (Dydd Sadwrn  25ain Mai).

Cafwyd adroddiadau bod mwg du wedi cael ei weld yn dod o ffenestri'r tŷ teras dau lawr a phan gyrhaeddodd y criwiau roedd y llawr cyntaf ar dân.  Roedd y criwiau'n poeni nad oedd modd dod o hyd i'r pedwar o bobl a oedd yn byw yn yr adeilad.

Fe ddefnyddiodd y criwiau bedwar set o offer anadlu, dwy bibell ddŵr  ac un prif bibell i fynd i medwn a brwydro yn erbyn y tân a'i atal rhag lledaenu i dai cyfagos.

Gyda diolch fe ddaeth Heddlu Gogledd Cymru o hyd i bawb a oedd yn byw yn yr eiddo - nid oeddent yn yr adeilad ar adeg y tân.

Nid yw achos y tân yn hysbys ar hyn o bryd.  Mae criwiau wrthi'n dampio'r fan i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel ac asesu'r difrod.

Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen