Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

“Cymrywch bwyll arbennig”pan fydd diffoddwyr tân ar streic

Postiwyd

Y mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i'r cyhoedd 'gymryd pwyll arbennig' o safbwynt diogelwch tân yn y cartref a diogelwch ffyrdd yn ystod y streic sydd wedi ei threfnu gan ddiffoddwyr tân.  

Y mae Undeb y Brigadau Tân wedi cyhoeddi ddoe (17eg Medi) y bydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol Ddydd Mercher 25ain Medi rhwng hanner dydd a 4.00pm.

Y mae disgwyl i nifer uchel o staff y gwasanaeth tân ac achub brotestio a bydd y rhain yn cynnwys staff gweithredol.   O ganlyniad i ostyngiad mewn adnoddau ni fydd yn bosib i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddarparu ymateb brys o'r un lefel ag arfer i danau ac argyfyngau eraill, ac felly bydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethu digwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.  

Bu i'r Prif Swyddog Tân Simon Smith gysuro'r cyhoedd: " Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith i barhau i ddarparu gwasanaeth  drwy gydol y streic" ond fe rybuddiodd  " mae'n bosib y bydd y gwasanaeth yn gyfyngedig ar adegau dan yr amgylchiadau".  

Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi ac yn parchu pryderon y staff sydd wedi arwain at eu penderfyniad i brotestio'n gyfreithlon yn y modd hwn, mae gan yr Awdurdod ddyletswydd a rhwymedigaeth i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd, cyn belled â bod hynny'n ymarferol bosib.  Dyma anghydfod rhwng Undeb y Brigadau Tân (FBU) a'r Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr dros y newidiadau arfaethedig i drefniadau pensiwn.  Mae'r newidiadau hyn yn mynd i effeithio ar nifer o bobl mewn sefydliadau  ar draws y sector cyhoeddus. Fodd bynnag,  prif flaenoriaeth yr Awdurdod yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a chysondeb y gwasanaeth cyhoeddus.

Fe aeth y Prif Swyddog Tân Simon Smith ymlaen i ddweud: "Yn wahanol i'r anghydfod yn 2002/3 ni fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael  cefnogaeth gan y fyddin gyda'r peiriannau 'Green Goddesses' ac felly  fe fydd ein gallu i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd yn gryn her.  Fod bynnag, byddwn yn parhau i ymateb i wasanaethau brys drwy flaenoriaethu'r adnoddau sydd ar gael i ni, gan ganolbwyntio ar achub bywydau."

Er mwyn helpu pobl i gymryd pwyll arennig o safbwynt diogelwch tân a helpu i leihau'r peryglon i gymunedau a busnesau, bydd cynghorion diogelwch a chanllawiau ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol  Facebook a Twitter (#takeextracare) , yn ogystal â'r newyddion lleol.

Fe bwysleisiodd y Prif Swyddog Tân bwysigrwydd y cynghorion canlynol mewn achos o dân;

  • Atal sydd orau - talu sylw ychwanegol i ddiogelwch tân yn y cartref
  • Sicrhewch fod gennych larwm fwg sydd yn gweithio
  • Os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan, a galwch 999
  • Peidiwch â chael eich temtio i daclo'r tân eich hun.

"Y mae hi bob amser yn bwysig i chi gymryd sylw o ddiogelwch tân, ond mae hyn yn bwysicach fyth yn ystod yr adegau hyn," meddai.  "Rwyf yn erfyn ar i bobl gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel, megis gwneud yn siŵr bod ganddynt larymau mwg gweithredol.  

"Os bydd angen i unrhyw aelod o'r cyhoedd ein galw ni mewn perthynas â mater nad ydyw'n fater brys yn ystod yr achos o weithredu diwydiannol, byddai o gymorth i ni pe byddent yn aros hyd nes i'r gwasanaeth arferol gael ei adfer cyn gwneud yr alwad honno ."

 

Sut allwch chi gadw'n ddiogel rhag tân? Dyma air i gall ar ddiogelwch tân;

Larymau Mwg - Gosodwch larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref a phrofwch hwy yn rheolaidd. Dylid gwirio'r batris unwaith yr wythnos a'u newid o leiaf unwaith y flwyddyn.

Coginio - Cymrwch ofal arbennig wrth goginio. Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio. Peidiwch â llenwi eich sosban tsips fwy na thraean. Peidiwch byth â rhoi bwyd i mewn yn eich sosban tsips os bydd yr olew yn mygu - trowch y gwres i ffwrdd a gadewch iddo oeri. Peidiwch byth â choginio os ydych dan ddylanwad alcohol.

Canhwyllau -Peidiwch â defnyddio canhwyllau yn rhy agos at lenni. Peidiwch â gadael canhwyllau heb neb i gadw llygaid arnynt.  Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau'n cael eu diffodd yn gywir bob amser.

Matsis- Cadwch fatsis a thanwyr  ymhell o gyrraedd plant.

Defnyddiau Ysmygu- Defnyddiwch flwch llwch priodol bob amser.  Diffoddwch ddefnyddiau ysmygu yn gywir. Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.

Cynllun Dianc- Cynlluniwch eich llwybr dianc gyda phawb. Cofiwch  gynnwys plant a'r henoed bob amser.  Caewch bob drws gyda'r nos a diffoddwch yr holl gyfarpar trydanol yn y plwg oni bai eu bod yn cael eu defnyddio.

Tanau Agored- Rhowch gard dân o flaen pob tân agored. Peidiwch â sychu dillad yn rhy agos i dân agored.

Trydan - Newidiwch unrhyw geblau sydd wedi gwisgo neu dreulio. Defnyddiwch y ffiwsiau cywir mewn offer trydanol domestig. Profwch flancedi trydan unwaith y flwyddyn. Peidiwch â gorlwytho socedi.

Diogelwch tân i fusnesau yn ystod y gweithredu diwydiannol:

Er mwyn sicrhau bod eich adeilad yn parhau i fod yn ddiogel rhag tân yn ystod achos i weithredu diwydiannol:

Yn gyntaf, dylai perchnogion busnes adolygu eu Hasesiad Risgiau Tân ac, os bydd angen gwneud newidiadau, rhoi'r rhain ar waith ar unwaith.  Yn ogystal â hyn, bydd angen cymryd rhagofalon i atal tanau rhag cynnau. Gall hyn fod cyn symled â cherdded o gwmpas yr adeilad ar ddiwedd diwrnod gwaith er mwyn gwneud yn siŵr nad oes defnyddiau hylosg yng nghyffiniau'r adeilad.

Bydd angen i berchnogion wneud yn siŵr bod holl aelodau'r staff yn ymwybodol o'r gweithdrefnau ar gyfer lleihau'r tebygolrwydd o dân a bod pawb yn parhau i fod yn effro i beryglon tân. Bydd yr hyn sydd angen i berchnogion unigol eu gwneud yn ddibynnol ar eu Hasesiad Risgiau Tân eu hunain.

Yn ystod unrhyw gyfnod o weithredu diwydiannol, y 'Person Cyfrifol' fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gynnal y rhagofalon tân yn yr adeilad fusnes, ac felly cynghorir perchnogion busnes i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, er mwyn gwneud yn siŵr bod staff, ymwelwyr a'r adeilad yn ddiogel.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen