Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hybu diogelwch tân ar Ddiwrnod Pobl Hŷn

Postiwyd

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl gadw llygaid ar berthnasau a chymdogion hŷn ar Ddiwrnod Pobl Hŷn 2014 sydd yn digwydd heddiw (Dydd Mercher 1af Hydref).

 

Dengys ystadegau bod pobl dros 65 mlwydd oed ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref. A chyda poblogaeth sydd yn mynd yn hŷn - mae'n debygol y bydd 23% o boblogaeth y DU dros 65 mlwydd oed erbyn 2035.  

 

Er mai pobl hŷn sydd fwyaf mewn perygl o dân y mae rhai rhagofalon syml y gallant eu dilyn er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cadw mor ddiogel â phosibl.

 

Fe aeth staff o'r Gwasanaeth i sawl digwyddiad heddiw i hybu diogelwch tân ymhlith pobl hŷn yn cynnwys y digwyddiad 'Pum ffordd o gadw'n Iach' yng Nghei Connah, a chafwyd cyflwyniad i bobl hŷn yn y Rhyl.

 

Meddai Dave, sydd yn Rheolwr Partneriaeth yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam: "Y mae pobl hŷn ymhlith un o'r grwpiau yr ydym ni fel Gwasanaeth yn ceisio eu targedu, ac felly roedd yn bwysig i ni fod yn bresennol yn y digwyddiad 'Pum ffordd o gadw'n iach' heddiw.  Roedd cyfle i ymwelwyr gael cyngor gan nifer o asiantaethau gwahanol.  Rydym yn hybu ein harchwiliadau diogelwch tân yn y cartref lle byddwn yn dod i'ch cartref i drafod diogelwch tân a gosod larymau mwg os oes angen.

 

Mae'r archwiliadau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  I gofrestru am archwiliad ffoniwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, neu ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen