Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân difrifol yn Llanrwst

Postiwyd

Mae dyn 19 mlwydd oed wedi marw ac mae dyn 39 mlwydd oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn tân yn Llanrwst yn ystod oriau mân y bore yma (Dydd Gwener 10 Hydref).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn fflat llawr cyntaf yn Sgwâr Ancaster, Llanrwst am 06.03 o'r gloch y bore, yn cynnwys pum peiriant o Lanrwst, Conwy, Bae Colwyn a Llandudno, ynghyd â'r peiriant cyrraedd yn uchel o'r Rhyl.

Llwyddodd un dyn, 48 mlwydd oed, i ddianc yn ddianaf.

Cafodd ffordd yr A470 ei chau oherwydd bod cerbydau'r gwasanaethau brys yn bresennol ac y mae disgwyl i'r ffordd aros ar gau am beth amser.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill i sefydlu achos y tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen